大象传媒

Dadl dros safle gorsaf bws newydd yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Bws CaerdyddFfynhonnell y llun, Ruth Sharville/Geograph

Mae dadl wedi datblygu yngl欧n 芒 chynlluniau i greu gorsaf fws yng Nghaerdydd, a hynny ar safle gwastraff ac ailgylchu sydd wedi cau, saith mlynedd ar 么l i 拢1m gael ei wario ar ei uwchraddio.

Bydd Cyngor Caerdydd, sy'n cael ei arwain gan y blaid Lafur, yn trafod y cynnig ar gyfer y safle ar Ffordd Waungron, Y Tyllgoed.

Mae Neil McEvoy, arweinydd gr诺p Plaid Cymru, wedi cyhuddo'r cyngor o reoli'r ddinas mewn modd "cwbl afresymol".

Ond mae aelod y cabinet, Ramesh Patel, oedd yn anfodlon ymateb i sylw Mr McEvoy, wedi dweud y byddai'r syniad yn helpu i wella trafnidiaeth gyhoeddus.

'Hanfodol bwysig'

Pan roedd clymblaid wedi'i harwain gan Blaid Cymru yn rheoli'r cyngor, cafodd 拢1m ei wario ar uwchraddio'r safle yn 2008/09.

Ond cafodd y safle ei gau yn 2014 gan y Cyngor Llafur, gan ddweud nad oedd yn "ymarferol yn ariannol".

Wedi hynny cafwyd ymgyrch leol i'w ailagor. Yn 么l arolwg barn leol wedi'i threfnu gan Mr McEvoy, roedd mwyafrif helaeth o blaid ei ailagor, ond nid yw'r canlyniad hwnnw yn gorfodi'r cyngor i weithredu.

Erbyn hyn mae'r cyngor wedi cyflwyno cynllun am yr orsaf fysiau, gan ddweud ei fod yn "hanfodol bwysig" ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus newydd ar draws y ddinas.

Mae Mr McEvoy yn honni bod y cyngor wedi cadw eu cynlluniau ar gyfer y safle yn dawel.

Dywedodd: "Mewn gwleidyddiaeth os and ydych chi eisiau gwneud rhywbeth, gallwch chi ddweud 'gallwn ni ddim fforddio gwneud hynny'.

"Ond dydi hwn ddim yn gwestiwn o arian.

"Mae'n fater o gael y Cynllun Datblygu Lleol wedi'i gymeradwyo, dyna'r cwbl."

'Deniadol ac ymarferol'

Mewn adroddiad sydd wedi'i ryddhau gan y cyngor, dywedodd Mr Patel, aelod y cabinet dros drafnidiaeth, cynllunio a chynaliadwyedd, y byddai'r cynllun yn lleihau'r amser ar gyfer teithio ar fws o ddwyrain i orllewin Caerdydd, a hynny heb orfod gyrru trwy ganol y ddinas.

Mae'r safle hefyd nesaf at orsaf reilffordd Ffordd Waungron, a dywedodd y byddai'r cynllun yn galluogi mwy o deithwyr i ddefnyddio trenau a bysiau.

Dywedodd Mr Patel bod y cyngor wedi ymrwymo i wella trafnidiaeth gyhoeddus, gan ei wneud yn "ddewis deniadol ac ymarferol".

Nid oedd Mr Patel am wneud sylw yngl欧n 芒 sylwadau Neil McEvoy.

Dywedodd y cyngor y byddai unrhyw gynlluniau ar gyfer safleoedd trafnidiaeth strategol yn y ddinas yn mynd drwy'r broses gynllunio llawn, gan gynnwys cyfnod ymgynghori.

Mae'r cyngor wedi gwrthod pryderon gwrthwynebwyr y byddai cau Ffordd Waungron yn achosi cynnydd mewn gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon.