大象传媒

Croesawu'r cyhoedd i gartre'r Beasleys

  • Cyhoeddwyd
Eileen a Trefor BeasleyFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Eileen a Trefor Beasley

Mae plac yn cael ei ddadorchuddio i ddynodi cartref yr ymgyrchwyr iaith, Trefor ac Eileen Beasley.

Fe fydd y bwthyn yn Llangennech ar agor i'r cyhoedd, ac mae'r perchennog presennol wedi cytuno i roi'r enw 'T欧'r Beasleys' arno.

Mae nifer o'r farn mai brwydr y Beasleys i gael ffurflen dreth Gymraeg gychwynnodd yr ymdrechion i achub yr iaith Gymraeg.

Fe brynodd Trefor ac Eileen y bwthyn - 2, Yr Allt, Llangennech - yn gartref cyntaf wedi iddyn nhw briodi yn 1952.

Ffurflen dreth

Wedi i'w cais am ffurflen dreth cyngor Gymraeg gael ei gwrthod, fe frwydron nhw am wyth mlynedd, gan ymddangos yn y llys 16 gwaith am wrthod talu'r dreth.

Aeth beil茂aid 芒'u dodrefn bedair gwaith yn ystod yr ymgyrch.

Yn 1960, fe gafodd y ffurflen Saesneg ei disodli gan ffurflen ddwyieithog.

'Lle anrhydeddus'

Fe arweiniodd safiad y Beasleys at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Dywedodd Mr Hart, sy'n berchen ar y bwthyn ar hyn o bryd: "Roeddwn i wrth fy modd i ddysgu fod gan y t欧 y fath le anrhydeddus yn hanes Cymru, ac rwy'n falch o'r rhan y mae'r t欧 wedi'i chwarae yn adfywiad yr iaith Gymraeg."

Mae Mr Hart wedi trefnu i'r t欧 gael ei agor i'r cyhoedd chwe gwaith y flwyddyn.

Bydd y plac yn cael ei ddadorchuddio gan faer Llanelli, Mr Roger Price ar 18 Ebrill.

Dywedodd Mr Price: "Mae'n anrhydedd i mi gael cymryd rhan yn y digwyddiad hwn sy'n dod fel uchafbwynt fy mlwyddyn yn y swydd.

"Roedd y Beasleys yn arloeswyr yn eu dydd, gan lwyddo i ddiogelu'r Gymraeg fel rhan o'n hetifeddiaeth yn Llanelli a'r ardal o gwmpas."