Trafod cais i godi flatiau yng Nghlwb P锚l-droed Aberystwyth

Ffynhonnell y llun, Tai Ceredigion

Bydd cynlluniau i godi 33 o fflatiau ar ran o safle clwb p锚l-droed Aberystwyth yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Rheoli Datblygu Cyngor Ceredigion fore dydd Mercher.

Roedd yna fwriad ar un adeg i godi 80 o fflatiau, ynghyd ag eisteddle newydd, bwyty a chanolfan ieuenctid, ond mae'r cynlluniau wedi cael eu haddasu dros amser.

Bwriad clwb p锚l-droed Aberystwyth yw defnyddio'r arian o'r datblygiad i osod cae artiffisial 3G yng Nghoedlan y Parc er mwyn gwella'r cyfleusterau chwarae yno.

Pryderon

Mae swyddogion cynllunio Cyngor Ceredigion wedi argymell gwrthod y cais yn sgil pryderon am lifogydd yn ogystal 芒'r fynedfa i'r safle. Mae'r clwb yn ffinio ag Afon Rheidol sydd yn llifo i Fae Ceredigion.

Yn dilyn ymweliad safle gan ddirprwyaeth o'r Pwyllgor Rheoli Datblygu ar 27 Mawrth, fe wnaed argymhelliad gan gynghorwyr i dderbyn y cais gydag amodau yngl欧n 芒'r fynedfa i'r safle.

Cymdeithas Tai Ceredigion sy'n gyfrifol am gyflwyno'r cynlluniau. Yn 么l Llyr Edwards, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo Tai Ceredigion, mae'r Gymdeithas wedi "gwneud lot fawr o waith i ddiwallu'r pryderon" sydd wedi cael eu codi gan swyddogion cynllunio.

'拢1m yn y fantol'

Mewn cyfweliad 芒 大象传媒 Cymru, fe rybuddiodd Mr Edwards fod dros 拢1m o gronfa adfywio Llywodraeth Cymru yn y fantol pe bai'r cynlluniau yn cael eu gwrthod gan Gyngor Ceredigion.

Yn 么l Tai Ceredigion, mae yna dros 700 o bobl ar y rhestr aros yn Aberystwyth am fflatiau un neu ddwy ystafell.

Fe fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn Neuadd y Sir, Aberaeron, am ddeg o'r gloch fore Mercher.