大象传媒

Dwyn goleuadau glas ambiwlansys

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llefarydd ar ran y gwasanaeth: 'Hyn yn anghyfrifol iawn'

Mae'r heddlu'n ymchwilio am fod lladron wedi dwyn goleuadau glas ochor dau ambiwlans yn ystod G诺yl Banc y Pasg.

Roedd y ddau ambiwlans wedi eu parcio dros nos tu allan i orsaf ambiwlans Caernarfon.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans fod y drosedd "yn anghyfrifol iawn" ac y gallai beryglu bywydau.

"Oherwydd y dwyn doedd y ddau ambiwlans ddim yn gallu ymateb i alwadau, ar adeg pan oedd y gwasanaeth o dan bwysau."

Dylai unrhywun 芒 gwybodaeth ffonio 101.