大象传媒

Cofio brwydr y Beasleys

  • Cyhoeddwyd
Eileen a Trefor BeasleyFfynhonnell y llun, Delyth Prys

Bydd cofeb arbennig yn cael ei dadorchuddio ar hen gartref Eileen a Trefor Beasley yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin ar 18 Ebrill.

Roedden nhw yn byw yno rhwng 1952 a 1964. Yn ystod y cyfnod fe ddechreuodd y ddau frwydro i gael ffurflen dreth ddwyieithog gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli.

Fe fuodd y ddau yn y llys 16 o weithiau ac ymwelodd y beil茂aid 芒'u cartref bedair gwaith, gan fynd 芒'r rhan fwyaf o'u dodrefn o'r t欧.

Ar 么l wyth mlynedd o ymgyrchu fe enillon nhw eu brwydr ac mi dderbynion nhw bapur treth dwyieithog yn 1960.

Mae eu merch Delyth Prys yn rhannu ei hatgofion gyda Cymru Fyw am frwydr ei rhieni a'i phrofiadau pan yn blentyn:

Dechrau'r frwydr

Tua 5 neu 6 oed oeddwn i, a 'mrawd ddwy flynedd yn h欧n pan aethon nhw 芒'r piano am y tro cyntaf. Roedd mam wedi'n paratoi ni ymlaen llaw: roedd y Cyngor yn gwrthod rhoi bil treth Cymraeg i ni, ac felly roedden ni'n gwrthod talu.

Byddai hynny'n golygu y bydden nhw'n cymryd ein dodrefn ni i'w gwerthu yn lle hynny, ond doedd hynny ddim yn bwysig. Beth oedd yn bwysig oedd fod y Gymraeg yn cael yr un parch 芒'r Saesneg.

Os nad oedden nhw'n fodlon rhoi peth mor syml 芒 phapur y dreth i ni'n Gymraeg, doedd fawr o obaith i'r iaith. "Doedd e ddim yn biano da iawn beth bynnag" meddai mam wedyn i 'nghysuro, a "fe gei di biano newydd gwell pan fyddwn ni wedi ennill".

Fe brynodd ffrindiau y piano n么l i ni y tro cyntaf.

Roedd mam a dad yn anhapus iawn. Holl bwynt yr ymgyrch oedd gwneud safiad, a gwneud i bobl sylweddoli peth mor anhygoel o ryfedd heb s么n am anghyfiawn oedd gwrthod rhoi bil treth yn Gymraeg, mewn ardal lle roedd mwyafrif y bobl yn Gymry Cymraeg.

Fe aeth y bwmbeil茂aid 芒'r piano eto yr ail waith, a'r tro yma wnaeth neb ei brynu fe n么l i ni.

Cymryd y dodrefn

Wedi hynny fe aeth y bwmbeil茂aid 芒 holl ddodrefn y parlwr. Roedd dad si诺r o fod yn y gwaith, a mam yn gorfod delio gyda'r bwmbeil茂aid gyda dau o blant bach dan draed, a'r rheiny heb fod yn rhy awyddus i weld eu dodrefn yn cael eu cario allan drwy'r drws.

Fe aethon nhw 芒 phopeth o'r ystafell: y 3 piece suite, y ddesg roll top a'r gadair swyddfa, y drych oedd yn hongian uwchben y lle t芒n, a hyd yn oed y carped.

Roedd mam bron 芒 thagu pan fu'r bwmbeil茂aid mor ddigywilydd a gofyn iddi a oedd ganddi ddarn o linyn iddyn nhw glymu'r carped i'w gludo i ffwrdd!

Fe gafodd mam gryn dipyn o drafferth i wagio'r ddesg a oedd yn llawn papurau a gwahanol drysorau er mwyn iddyn nhw fynd 芒 hi.

Am ryw reswm, roedd y jam cartref hefyd wedi'i storio ar ben y roll top desg, a'r unig beth oedd ar 么l yn y parlwr wedi i'r dynion fynd oedd deg pot o jam mwyar duon yn rhes ar hyd y llawr.

Fe ddaeth y bwmbeil茂aid yn 么l wedyn i fynd 芒 mwy o bethau, ond roedd mam wedi trefnu i 'mrawd a fi fynd at ein hewyrth a'n modryb bryd hynny, gan ei bod yn barnu fod gweld ein dodrefn yn cael ei gario i ffwrdd yn ein ypsetio gormod.

Roedd tipyn o ddifyrrwch, heb s么n am ryddhad efallai, pan fethodd y bwmbeil茂aid 芒 symud y cwpwrdd llyfrau tal o'r gegin fyw.

Roedd yn cyrraedd y nenfwd, wedi'i wasgu i mewn rywsut o dan y trawstiau agored, a'r bwmbeil茂aid yn methu 芒'i gael allan. Dyna'r unig ddodrefnyn ar 么l fy nhad-cu sy'n dal yn y teulu.

T欧 gwag

Rayburn oedd gennym ni i goginio diolch byth, a fedren nhw ddim mynd 芒 hwnnw. Fe adawson nhw fwrdd, pedair cadair a'r gwelyau i ni hefyd.

Doedd gennym ni ddim radio na theledu, neu mae'n si诺r y bydden nhw wedi mynd 芒'r rheiny yn eu tro. Ond rwy'n cofio'r parlwr yn wag tra parhaodd yr ymgyrch.

Y peth gwaethaf pan oedd mam yn gynghorydd ac etholwyr yn galw am gymorth, oedd nad oedd lle i ni'r plant fynd o'r ffordd, a doedd mam ddim yn barod i ni aros yn y gegin yn clustfeinio ar y sgwrs, rhag ofn eu bod nhw am drafod pethau cyfrinachol.

Ar adegau felly, byddai dad yn mynd 芒 ni allan am dro, beth bynnag oedd y tywydd, er gwaetha'n protestiadau.

Ond doedden ni ddim yn drist na digalon heb ein dodrefn.

Doedd y rheiny wir ddim yn cyfrif rhyw lawer i blant. Flynyddoedd yn ddiweddarach y deallais i mai anrhegion priodas oedd llawer o'r pethau a gymerwyd, a bod hynny wedi bod yn anodd iawn ar mam yn enwedig.

Ond doedd gyda ni ddim amheuaeth y byddai mam a dad yn ennill yn y diwedd.

Dw i ddim yn cofio unrhyw ddathlu mawr y diwrnod y clywson ni ein bod wedi ennill y frwydr, a bod Cyngor Llanelli yn awr yn mynd i ddarparu papur y dreth yn ddwyieithog i bawb.

Piano'r genhedlaeth nesa'

Ond rwy yn cofio'r piano newydd yn cyrraedd, o flaen unrhyw ddodrefnyn arall, ac rwy'n cofio mam yn mynd ati i archebu soffa a dwy gadair esmwyth o ffatri yn ne Cymru.

Mi hiraethodd am y drych arferai hongian uwchben y lle t芒n, anrheg priodas gan chwaer fy nhad, am weddill ei hoes.

Erbyn hyn mae fy nau 诺yr bach innau'n dechrau dangos diddordeb yn y piano, ac yn parablu llond pen o Gymraeg wrth wneud. Byddai mam a dad wedi bod yn hapus iawn i'w gweld.