大象传媒

Cyngor am rannu gwely gyda babanod: 'Angen eglurder'

  • Cyhoeddwyd
BabiFfynhonnell y llun, SPL

Mae crwner wedi galw am eglurder yngl欧n 芒'r cyngor sy'n cael ei roi i rieni am rannu gwely gyda babanod bach.

Bu farw Efan Robert James, saith wythnos oed, yng ngwely ei fam, Hannah James, yn eu cartref yn Neyland ger Aberdaugleddau ym mis Hydref.

Clywodd cwest i'w farwolaeth nad oedd achos amlwg i'w farwolaeth a chafodd rheithfarn agored ei chofnodi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n ystyried sylwadau'r crwner ac yn ymateb maes o law.

'Dryslyd iawn'

Cyfeiriodd Crwner Sir Benfro, Mark Layton, at y cyngor yn nogfen Llywodraeth Cymru, Lleihau'r Risg o Farwolaeth yn y Crud.

"Mae'r cyngor yn dweud nad oes dim o'i le gyda rhannu eich gwely gyda babi - ond na ddylech chi wneud hynny os ydych chi'n 'flinedig iawn'.

"Mae hyn yn ddryslyd iawn.

"Mae hyn yn awgrymu ei bod hi'n iawn rhannu gwely gyda babi os nad ydych chi wedi blino. Ond ni fydd llawer o bobl yn gallu cysgu oni bai eu bod nhw wedi blino."