大象传媒

Trafod r么l Comisiynydd y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
meri huws
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Meri Huws yn croesawu trafodaeth ar r么l a gwaith y Comisiynydd

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn anghytuno gydag argymhellion ymchwil gan academydd blaenllaw i ailstrwythuro r么l Comisiynydd y Gymraeg.

Mae'r Athro Diarmait Mac Giolla Chriost o Brifysgol Caerdydd wedi dweud y dylai bwrdd neu gorff o bobl fod yn cymryd y r么l o reoleiddio a chraffu ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu i'r cyhoedd yn y Gymraeg, yn hytrach na'r sefyllfa bresennol ble mae unigolyn yn gwneud y swydd.

Ond mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dadlau bod angen rheoleiddiwr sy'n unigolyn, fel mae'r Comisiynydd ar hyn o bryd.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi croesawu'r drafodaeth, sy'n edrych ar ei r么l a'i gwaith.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymchwil yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost yn dweud fod model presennol Comisiynydd y Gymraeg yn anghywir

Mae'r Athro Mac Giolla Chriost, wedi bod yn arwain prosiect ymchwil tair blynedd yn edrych ar waith Comisiynwyr Iaith Iwerddon, Canada a Chymru. Ond mae'r "model yn anghywir ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg", meddai.

"Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gorfforaeth unigol - 'corporate sole' - mae hynny'n golygu mai'r Comisiynydd ar ei phen ei hun s'n gwneud pob penderfyniad." meddai.

"Mae hynny yn gallu achosi cymlethdodau ac oedi mawr mewn achosion sy'n cyrraedd swyddfa'r Comisiynydd, gan fod angen iddi roi ei sylw unigol i bob achos.

"Mae ein hymchwil ni yn dangos nad yw hynny yn ddelfrydol ar gyfer rheoleiddiwr.

"Fe ddylai swyddfa'r Comisiynydd fod yn gorfforaeth gyfansawdd, lle mae sawl person, neu gorff yn rhan o'r broses o gymryd penderfyniadau.

Cwestiynau i'w hateb

Mae Si芒n Howys, cadeirydd gr诺p hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn anghytuno 芒 chanfyddiadau ymchwil Yr Athro Mac Giolla Chriost, er ei bod yn dweud fod gan Meri Huws gwestiynau i'w hateb fel unigolyn am ei "diffyg defnydd o'r pwerau rheoleiddio a chyfreithiol sydd ganddi."

Tydi hynny, meddai, ddim yn golygu bod strwythur ei r么l hi'n ddiffygiol o reidrwydd.

"Rydyn ni wastad wedi dadlau bod angen rheoleiddiwr sy'n gorff undyn, fel y Comisiynydd. Dyna'r hyn roedden ni'n dadlau adeg pasio Mesur y Gymraeg yn 2010; ac yn hynny o beth mae angen edrych ar fanteision model y Comisiynwyr eraill yng Nghymru, a model ombwdsmon.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw Si芒n Howys yn meddwl bod strwythur r么l y Comisiynydd o reidrwydd yn ddiffygiol

Yr ateb, yn 么l Si芒n Howys, ydi gwahanu cyfrifoldebau presennol y Comisiynydd, a gwneud hynny drwy gadw swydd y Comisiynydd fel ag y mae hi o ran rheoleiddiwr, ond ffurfio corff annibynnol newydd i ganolbwyntio ar hyrwyddo'r Gymraeg.

Gwendid Bwrdd yr Iaith

"Un o wendidau Bwrdd yr Iaith Gymraeg oedd ceisio cyfuno swyddogaethau hyrwyddo a rheoleiddio, yn ogystal 芒 sefydlu gr诺p o bobl nad oedd yn ddigon atebol i'r cyhoedd. Ar y pryd, roedden ni'n dadlau bod angen corff arall, ar wah芒n i'r Comisiynydd, i fod yn gyfrifol am hyrwyddo'r Gymraeg.

"Yn lle hynny, sefydlwyd Cyngor Partneriaeth y Gymraeg o dan gadeiryddiaeth y Gweinidog: cam naturiol ymlaen erbyn hyn fyddai dad-gysylltu'r bartneriaeth honno o'r Llywodraeth gan ei droi'n gorff annibynnol gyda rhagor o gyfrifoldebau."

Un o'r pethau yr oedd Yr Athro Mac Giolla Chriost yn ei obeithio yn dilyn y gwaith ymchwil oedd trafodaeth yngl欧n 芒 r么l y Comisiynydd, ac roedd yn derbyn na fyddai pawb yn cytuno a chanfyddiadau'r ymchwil.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: "Mae'r Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu trafodaeth ar r么l a gwaith y Comisiynydd. Mae hi'n edrych ymlaen at weld ffrwyth y gwaith ymchwil academaidd pan fydd yn cael ei gyhoeddi."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn "ymwybodol o'r gwaith ymchwil hwn sy'n cynnig nifer o bwyntiau trafod. Rydym yn hyderus fod y trefniadau presennol yn rhoi'r annibyniaeth sydd ei angen ar y Comisiynydd i gyflawni ei swyddogaethau o sicrhau dyfodol i'r iaith."