大象传媒

Gwahardd ysmygu mewn ceir 芒 phlant

  • Cyhoeddwyd
ysmygu mewn car

Mae Aelodau Cynulliad wedi cymeradwyo cynllun i wahardd pobl rhag smygu mewn ceir pan fydd plant dan 18 oed yn bresennol.

Fe fydd y newid yn dod i rym ar 1 Hydref a'r gosb am dorri'r gyfraith fydd 拢50 o ddirwy.

Mewn datganiad bnawn Mawrth fe ddywedodd y llywodraeth fod "anadlu mwg ail-law yn fygythiad gwirioneddol a sylweddol i iechyd plant.

"Mae plant yn fwy agored i niwed anadlu mwg ail-law mewn car, sy'n gyfyng o ran lle, gan eu bod yn anadlu'n fwy cyflym ac felly'n anadlu mwy o'r cemegau gwenwynig nag yw oedolion."

Bydd y rheolau newydd yn ei gwneud yn drosedd i yrrwr beidio ag atal smygu mewn cerbyd preifat caeedig pan fydd mwy nag un unigolyn yn bresennol, ac o leiaf un ohonynt dan 18 oed.

Bydd yr heddlu'n gorfodi'r rheoliadau ar y cyd 芒'u dyletswyddau ehangach sy'n gysylltiedig 芒 diogelwch ar y ffyrdd, sy'n cynnwys sicrhau bod pobl yn cydymffurfio 芒'r cyfreithiau ar gyfer gwregysau diogelwch neu seddi ceir.

'Cam pwysig ymlaen'

Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Rwy'n falch iawn bod Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymeradwyo ein cynlluniau i wahardd pobl rhag smygu mewn ceir pan fydd plant dan 18 oed yn bresennol.

"Bydd y gwaharddiad yn dod i rym ar 1 Hydref 2015, sef yr un diwrnod ag y bydd gwaharddiad yn dod i rym yn Lloegr.

"Nod y rheoliadau hyn yw diogelu plant rhag y niwed sy'n gysylltiedig 芒 bod yn agored i fwg ail law wrth deithio mewn cerbydau preifat.

"Mae'r bleidlais o blaid y gwaharddiad heddiw yn nodi cam pwysig ymlaen ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru."