大象传媒

Pantycelyn: Cyfaddawd Prifysgol Aberystwyth?

  • Cyhoeddwyd
Neuadd PantycelynFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ers ei sefydlu, bu Pantycelyn yn gartref i dros 3,500 o fyfyrwyr.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi'u bwriad i gadw neuadd Pantycelyn fel llety cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr yn y dyfodol, yn dilyn dod i gytundeb gydag UMCA ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae canghellor a chadeirydd cyngor y brifysgol Syr Emyr Jones Parry wedi cytuno i gyflwyno cynnig mewn cyfarfod o'r cyngor ar 22 Mehefin sydd yn ymrwymo'r brifysgol i ail-agor y neuadd o fewn pedair blynedd.

Bydd cyngor y brifysgol yn gofyn i'r bwrdd gweithredol am gynllun hyfyw ar gyfer datblygu'r neuadd fel llety a gofod cymdeithasol Cymraeg ar gyfer y 40 blynedd nesaf, a'r gobaith yw y bydd y cynllun amlinellol wedi ei gwblhau erbyn 30 Ebrill 2016.

Fe fydd y cyngor yn gofyn i'r bwrdd gweithredol ddarparu llety ar gyfer myfyrwyr Cymraeg am gyfnod ar safle Penbryn o fis Medi 2015.

Mae 大象传媒 Cymru yn deall na fydd ympryd gafodd ei drefnu gan yr ymgyrchwyr ym Mhantycelyn yn mynd yn ei flaen bellach.