大象传媒

Arian i weddnewid castell Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
CastellFfynhonnell y llun, Mike Searle/Geograph

Bydd prosiect gwerth 拢780,000 i weddnewid cyflwyniad, dehongliad a chyfleusterau yng nghastell Caernarfon yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld hanes yr adeilad mewn ffyrdd newydd, yn 么l Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwelliannau'n cynnwys mynedfa newydd sydd wedi ei dylunio i groesawu ymwelwyr ac i barchu nodweddion hanesyddol y castell, a dehongliadau newydd ymhob rhan o'r safle.

Mae pedwar atyniad newydd wedi eu gosod yn safle'r castell, er mwyn addysgu ymwelwyr am hanes y safle:

  • Arddangosfa 'G锚m y Coronau' - sef bwrdd gwyddbwyll maint pobl, gyda cherfluniau o'r prif gymeriadau a oedd yn cystadlu i reoli Cymru o 1066 i 1282. Mae'r arddangosfa'n esbonio gwreiddiau tywysogion Cymru, o Golofn Eliseg i'r tywysogion diweddarach, yn ogystal 芒'r sedd a'r glustog ben-glin a ddefnyddiwyd yn yr arwisgiad yn 1969.

  • Arddangosfa 'Bywyd Eleanor o Gast卯l' - sy'n dangos yr wyth cyfnod o fywyd gwraig Edward y Cyntaf drwy garwsel Fictorianaidd.

  • Arddangosfa 'Chwedlau' - sydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr edrych ar hanes Edward y Cyntaf a darganfod sut y cymerodd fythau a chwedlau Cymru i roi hawl iddo'i hun reoli Cymru.

  • Cyflwyniad clywedol newydd - sy'n dangos ffilm wyth munud am hanes Caernarfon. Crewyd y ffilm gan Ross Ashton, yr artist taflunio digidol blaenllaw.

Mae'r prosiect hefyd yn esbonio nodweddion arwyddocaol yn y castell, arwyddion newydd ar gyfer Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a chreu llwybr gweithgareddau newydd er mwyn i deuluoedd allu crwydro drwy'r castell.

Mae'r gwaith yng nghastell Caernarfon wedi cael ei ariannu drwy Brosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw, sydd werth 拢19 miliwn ac sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Rhaglen adfywio

Mae'r gwelliannau i'r castell yn rhan o raglen adfywio ehangach sy'n ceisio defnyddio rhai o'r prif rannau sy'n dirywio ar lannau Caernarfon.

Sefydlwyd y rhaglen yn 2012, ac mae'n cael ei arwain gan bartneriaeth sy'n cynnwys nifer o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon, Antur Waunfawr, Galeri Cyf, GISDA, Cyngor Tref Caernarfon, Cyngor Celfyddydau Cymru ac eraill.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn un o'r arddangosfeydd newydd

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Bydd y gwelliannau i'r cyfleusterau yng nghastell Caernarfon yn cael effaith wirioneddol ar y profiad i'r ymwelwyr, ac rwy'n hynod falch o weld hanesion pwerus y lle pwysig hwn yn cael eu hadrodd mewn ffyrdd newydd a chreadigol.

"Mae gan Gaernarfon hanes cyfoethog a nodedig, ac felly mae twristiaeth treftadaeth yn gwneud cyfraniad mawr i economi'r dref. Mae Rhaglen Glannau Caernarfon yn enghraifft wych o Lywodraeth Cymru a phartneriaid lleol a chenedlaethol pwysig yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni amcan cyffredin o ran gwella a chynyddu'r hyn a gynigir fel twristiaeth treftadaeth, a hynny er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y gall treftadaeth eu cynnig i gryfhau ein heconomi."

'Lle eiconig'

Wrth groesawu'r buddsoddiad diweddar yng Nghastell Caernarfon, dywedodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi: "Mae'r buddsoddiad hwn mewn lle mor eiconig - un o safleoedd treftadaeth y byd wrth gwrs, sydd o bwys yn lleol ac yn rhyngwladol - yn gymorth i wella'r profiad i ymwelwyr yng nghastell Caernarfon ac i wella'r dehongliad o'n treftadaeth gyfoethog, gan gynnwys stori'r Tywysogion Cymreig.

"Mae Cyngor Gwynedd wedi gweithio'n agos gyda Cadw a phartneriaid eraill dros nifer o flynyddoedd i wella Caernarfon fel cyrchfan i dwristiaid ac mae eisoes yn datblygu cynigion cyffrous ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r prosiect hwn yn gam arall tuag at ein nod o adeiladu ar ein hasedau diwylliannol ac amgylcheddol unigryw er mwyn datblygu cyrchfannau o safon fyd-eang a fydd o fudd i gymunedau a busnesau lleol yn ogystal ag ymwelwyr i'r ardal."