拢1m o fuddsoddiad i ehangu Hufenfa De Arfon
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni cydweithredol cynnyrch llaeth hynaf a mwyaf Cymru yn ehangu ei gyfleusterau cynhyrchu caws, gyda benthyciad gwerth 拢1 miliwn gan Cyllid Cymru yn helpu i ariannu'r costau datblygu.
Dechreuodd Hufenfa De Arfon weithredu ar safle ger Pwllheli ym 1937 a bydd yn defnyddio'r arian i foderneiddio ei gyfleusterau cynhyrchu a chynyddu ei gapasiti cam cyntaf o 9,500 tunnell y flwyddyn i 11,500 tunnell.
Mae'r hufenfa'n cyflogi 90 o weithwyr, ac mae dros 90 miliwn litr o laeth yn cael ei brynu gan gyflenwyr lleol a'i brosesu ar safle Pwllheli bob blwyddyn.
'Cynnyrch craidd'
Dywedodd Alan Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon: "Fe wnaethom adolygu ein model busnes yn 2010 gan benderfynu canolbwyntio ar ddatblygu ein cynnyrch craidd, sef caws a menyn Cymreig.
"Mae angen y buddsoddiad hwn arnom i ddatblygu ein cyfleusterau er mwyn ehangu ein brand ymhellach yn ogystal 芒'n galluogi i ddatblygu cyfleoedd eraill yn y farchnad.
"Mae'r pecyn cyllido hwn yn cefnogi ein cynlluniau ehangu. Bydd benthyciad Cyllid Cymru yn helpu i ariannu cam cyntaf y datblygiad. Bydd y datblygiad newydd yn rhoi cyfleuster cynhyrchu effeithiol a hyblyg iawn inni a fydd yn cefnogi ein cynllun twf hirdymor ymhellach."
'Cynyddu capasiti'
Wrth groesawu'r newyddion am ehangu Hufenfa De Arfon, dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: "Sefydlwyd Cronfa Twf Cyfalaf Cymru, sy'n werth 拢20 miliwn, gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i'r galw gan fusnesau bach a chanolig am gyfalaf gweithio tymor byr ac rwy'n falch o weld ei bod yn cefnogi cwmni cydweithredol mor bwysig i ehangu a chynyddu effeithiolrwydd a chapasiti.
"Yn ogystal 芒 chefnogi'r gymuned ffermio yn yr ardal, bydd y cynllun ehangu hefyd yn helpu i gefnogi nod Llywodraeth Cymru i sicrhau cynnydd o 30% mewn gwerthiant blynyddol yn y diwydiant bwyd a diod erbyn 2020."
Trefnwyd y benthyciad o Gronfa Twf Cyfalaf Cymru gan Rhodri Evans, Swyddog Buddsoddi Cyllid Cymru. Dywedodd: "Ar 么l treulio'r rhan fwyaf o'm gyrfa yn gweithio yng ngogledd Cymru, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw Hufenfa De Arfon i gymuned amaethyddol yr ardal. Mae wedi bod yn gweithredu ar yr un safle ger Chwilog ers 1937 ac mae hefyd yn gyflogwr lleol mawr.
"Mae Alan a'i d卯m wedi trawsnewid Hufenfa De Arfon ers 2010 ac mae'r buddsoddiad hwn yn rhoi'r cyllid iddynt barhau 芒'r gwaith hwn. Mae ehangu'r gweithgaredd cynhyrchu caws yn ddatblygiad mawr i'r cwmni ac yn newyddion i'w groesawu i'r economi leol. Mae Cyllid Cymru wedi creu pecyn ariannu cyfalaf tymor byr i roi hwb i ddechrau'r prosiect."