Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Jess yn datgelu'r cyfan
Mae Jess Davies o Aberystwyth a bellach yn gweithio fel un o brif fodelau bronnoeth Prydain, gan fodelu i amryw o gylchgronau dynion.
Hi yw testun y rhaglen ddogfen 'Jess y Model a Tudalen Tri' sydd ar S4C ym mis Gorffennaf.
Cafodd Cymru Fyw gyfle i gael sgwrs gyda hi yngl欧n 芒'i gyrfa ac agwedd eraill tuag at ei gyrfa:
Pryd a sut ddechreuais di weithio fel model?
Dechreuais i fodelu ar 么l cymryd rhan ym mhasiant Miss Wales. Ges i asiant lawr yn Llundain wedyn ac fe ddatblygodd popeth ar 么l hynny.
Beth oedd dy deulu a dy ffrindiau yn meddwl pan nes di ddechrau - achosodd o unrhyw broblemau?
Fi'n lwcus bod fy nheulu a ffrindiau yn gefnogol iawn o fy ngwaith. Maen nhw'n prynu'r cylchgronau er mwyn cadw i fyny 'da'r gwaith a'r photoshoots ac yn dilyn fy ngyrfa ar Twitter a Instagram.
Mae rhai pobl yn credu ei fod yn wrth-ffeministaidd iawn i fodelu yn fronnoeth - beth yw d'ymateb di iddyn nhw?
Mae gan bawb ei farn ei hun, ond sai'n credu bod unrhyw waith yn gwneud rhywun yn wrth-ffeministaidd.
Mae ffeministiaeth i gyd am gydraddoldeb i bawb - i gael y dewis i wneud beth hoffech chi fel swydd, gyda'ch corff a'ch bywyd heb i chi gael eich beirniadu. Os wyt ti'n credu mewn cydraddoldeb, rwyt ti'n ffeminist.
Rwyt ti wedi astudio Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Morgannwg, ac wedi ysgrifennu traethawd hir ar rywioli merched yn y cyfryngau. Sut wyt ti wedi rhannu dy amser rhwng dy yrfa fel model a dy waith coleg?
Roedd hi'n anodd rhannu fy amser rhwng modelu a'r brifysgol. Weithiau roedd rhaid i fi droi lawr swyddi modelu achos roedd gen i draethodau i'w gwneud, ond mae e yn bosibl.
Wyt ti'n meddwl fod gan y swydd 'stigma' negyddol y dyddiau yma? Sut fyddi di'n ymdopi 芒 hwnnw yn y dyfodol?
Fel popeth, mae 'na stereoteip a stigma ynghlwm. Mae lot o bobl yn meddwl bod merched sy'n modelu yn fronnoeth yn dwp.
Dwi wedi cael fy ngalw'n llawer o bethau ers i fi ddechrau swydd modelu - ond mae gen i radd o'r brifysgol felly alla i ddim bod mor dwp 芒 hynny!
Beth fyddai dy ymateb di petai dy ferch di, mewn blynyddoedd i ddod, eisiau gwneud yr un peth?
Bydden i'n gefnogol os byddai fy mhlentyn i eisiau modelu. Mae 'na lawer o bethau cadarnhaol am y swydd.
Fi'n teimlo'n fwy hapus ac yn hyderus nawr ac yn cael gweld llefydd cyffrous ar draws y byd bydden i byth wedi gallu gweld fel arall, a chael cwrdd 芒 phobl bydda i'n galw'n ffrindiau am byth.
'', S4C, nos Fawrth 14 Gorffennaf, 21.30