大象传媒

Gorsaf drenau newydd i Geredigion?

  • Cyhoeddwyd
Rheilffordd Bow StreetFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae trenau'n teithio heibio i Bow Street bob dydd ond does dim un wedi bod yn stond yno ers y 60au

Mae arian wedi ei gyhoeddi gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, i astudio'r posibilrwydd o ailagor gorsaf drenau yn Bow Street, Ceredigion.

Mae gwaith eisoes wedi ei wneud ar wella llwybrau bws o fewn y sir ac astudiaeth arall ar ddichonoldeb ailagor llwybr rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddynodi arian i'r prosiectau. Byddai ailagor y llwybr rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn golygu buddsoddiad o 拢600m gan Lywodraeth Cymru, gyda'r astudiaeth ddichonoldeb yn gyfanswm o 拢30,000.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Cynghorydd Ellen ap Gwynn: "Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r astudiaeth ddichonoldeb i agor gorsaf rheilffordd yn Bow Street.

Ffynhonnell y llun, Creative Commons
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gaeodd gorsaf drenau Bow Street yn 1965

"Mae Ceredigion yn sir eang a gwledig sydd yn dibynnu ar rwydwaith trafnidiaeth effeithiol. Cynrychiola'r prosiect hwn, yn ogystal 芒 datblygu llwybrau bws strategol ac astudiaeth dichonoldeb ar gyfer ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, fuddsoddiad sylweddol sydd ddirfawr ei hangen yn y sir, a fyddai'n cyfrannu tuag at wella rhagolygon economaidd Ceredigion."

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Trafnidiaeth, Gwastraff, a Rheoli Carbon: "Gall hyn fod yn gam hynod bwysig yn natblygiad isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Ceredigion.

"Yn ogystal 芒 gorsaf rheilffordd i wasanaethu pentref poblogaidd Bow Street a'r cyffiniau, mae cryn ystyriaeth yn cael ei roi ar gyfer datblygu cyfleuster parcio a theithio ar y safle, a chysylltiadau i gerddwyr a seiclwyr i gampws y Brifysgol yng Ngogerddan, sydd yn ehangu.

"Fel pecyn, gall hwb trafnidiaeth o'r fath hefyd helpu i leihau tagfeydd traffig boreol a phroblemau parcio yn nhref Aberystwyth.

"Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn rhoi pob cymorth i'r astudiaeth dichonoldeb ac yn ymaros y casgliadau yn eiddgar."