Cerddi olaf Gerallt
- Cyhoeddwyd
Flwyddyn wedi marwolaeth y Prifardd Gerallt Lloyd Owen ei ferch Mirain Llwyd Owen sy'n trafod cyfrol olaf ei thad, Y G芒n Olaf, sef casgliad o'i gerddi wedi eu dewis yn ofalus ganddo cyn iddo gael ei daro'n wael yn 2014:
Ro'n i wedi cael ordors eitha' pendant. Roedd o wedi hel y cwbl oedd o isio'i gyhoeddi at ei gilydd i un pad yn daclus, a nodyn bach efo fo yn dweud maint y teip a pha ffont hyd yn oed oedd o isio ei ddefnyddio.
Fuo na fawr ddim trafod, yn anffodus. Roedd o wrthi'n eu hel at ei gilydd a minnau wedi cytuno i'w teipio'n daclus ers tua 18 mis a mwy ond roedd 'na wastad rywbeth arall yn galw, medda fo. Ryw bethau eraill i'w golygu ac ati.
Fel y digwyddodd petha, y noson cyn iddo gael ei daro yn wael ofnadwy, nes i lwyddo i gael fy machau arni hi. O fewn 24 awr bron iawn roedd o'n yr ysbyty a dim posib trafod wedyn. Mi fuon ni'n lwcus iawn - cael a chael oedd hi.
Roedd o hefyd yn licio llonydd a mi fydda i'n meddwl weithia' ei fod wedi dal arni am resymau eraill. Synnwn i ddim nad ydi o'n piffian yn rhywle'n gwybod mai fi sy'n stryffaglio i sgrifennu darnau fel hyn yn hytrach na'i fod o'n gorfod gwneud!
Ond wedi dweud hynny, doedd 'na ddim gwaith trafod chwaith. Y cwbwl wnaethom ni oedd ufuddhau i'w ordors - maint y dudalen a'r teip, pa ffont a'r teitl.
Y G芒n Olaf oedd ei ffugenw pan enillodd gadair Abertawe yn 1982 ac er ei fod wedi dewis hwnnw am resymau gwahanol bryd hynny, roedd o'n amlwg yn teimlo ei fod o'n addas.
Mae 'na sawl cerdd sydd wedi'i hepgor o'r casgliad, sy'n syndod yn 么l rhai llawer mwy gwybodus na fi.
Yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012 mi ddaeth i'r brig mewn tair cystadleuaeth, Y Cywydd, Hir-a-thoddaid a Thribannau Morgannwg. 'Does dim un ohonynt yn y gyfrol.
Er bod Y Tymhorau, y tribannau, ar y mae'n rhaid nad oedd o am eu cynnwys. Biti, achos dwi'n meddwl eu bod nhw'n hyfryd ac yn cyd-fynd efo holl deimlad y gyfrol.
Doedd o ddim yn fardd cynhyrchiol iawn ac roedd o'n gwybod mai hon, pryd bynnag y daethai, fyddai ei gyfrol olaf.
Mae 'na ddwy neu dair o gerddi cwbwl newydd yn y gyfrol. Mae'r rhan fwyaf wedi ymddangos mewn cylchgronau ac ati dros y blynyddoedd ond roedd o'n dal i weithio ar gywydd Eirwyn Pentre, ei ffrind bore oes, tan y diwedd.
Yn y 'sbyty y daeth y pennill bach di-deitl ar y dechrau - "Sgen ti feiro? Sgwenna hwn i lawr..."
Mae'n debyg fod 'Lloegr a Phencampwriaeth B锚l-droed Ewro '96' yn gweld golau dydd am y tro cyntaf hefyd. Mi fyddai o wrth ei fodd gweld bod y rhod yn troi a Chymru'n gwneud mor dda dyddiau yma. Ma' hi'n chwith garw heb y tecst ar ddiwedd pob g锚m.
Mae 'na deimladau cymysg iawn wrth weld y gyfrol yn cael ei chyhoeddi. Mae 'na dristwch ofnadwy wrth reswm ond mae 'na hefyd ryddhad a balchder achos mae hi'n gyfrol hyfryd. Mae popeth amdani'n gryno a thaclus rywsut. Yn fy marn i beth bynnag.
Dwi'n meddwl y byddai Dad yn fodlon iawn hefyd ac, a dweud y gwir, dyna ydi'r peth pwysica'.
Mirain Llwyd Owen
Bu Mirain hefyd yn siarad ar Raglen Dei Tomos, Radio Cymru gyda Gruffudd Antur, sydd wedi ysgrifennu'r rhagair i'r gyfrol a'r Athro Peredur Lynch.
Mae Y G芒n Olaf wedi ei chyhoeddi gan Barddas