Carchar y Parc i wahardd ysmygu
- Cyhoeddwyd
Fe fydd carchar mwyaf Prydain yn gweithredu polisi 'di-f诺g' erbyn diwedd mis Ionawr nesaf.
Mae gan garchar y Parc ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, sy'n cael ei redeg gan gwmni diogelwch G4S, fwy na 1,000 o garcharorion a throseddwyr ifanc.
Fe ddaeth y penderfyniad i wahardd ysmygu yn dilyn achos a ddaeth i'r Uchel Lys, wedi i garcharor gwyno ei fod wedi ei orfodi i rannu cell gydag ysmygwr.
Fe gafodd ysmygu ei wahardd mewn mannau dan do yn 2007, ond roedd celloedd mewn carchardai yn eithriad i'r gyfraith newydd.