大象传媒

Delio gyda salwch meddwl

  • Cyhoeddwyd
Haul trwy'r cymylau

Mae angen trafod salwch meddwl yn agored, yn sensitif ac yn bositif, a hynny, yn Gymraeg yn 么l golygydd cyfrol a lansiwyd fis Awst y llynedd sy'n trafod profiadau nifer o Gymry amlwg.

Alaw Griffiths a gasglodd yr ysgrifau at ei gilydd. Mae hi yn trafod ei phrofiadau personol, a'r hyn a'i hysgogodd i roi pin ar bapur a chyhoeddi 'Gyrru Drwy Storom' gyda Cymru Fyw:

Y Gymraeg a iechyd meddwl

Cefais gyfres o sesiynau therapi siarad pan oedd fy mabi tua 9 mis oed, trwy'r Gwasanaeth Iechyd. Roedd rhaid bodloni ar wasanaeth Saesneg, neu ddim o gwbl - doedd dim nerth gennyf i wrthod unrhyw fath o wasanaeth a fyddai'n gymorth i mi wella.

Wrth ddod yn gryfach dechreuais bori'r we a siopau llyfrau ond methais ddod o hyd i unrhyw wefannau neu lyfrau gyda gwybodaeth digonol am salwch meddwl yn y Gymraeg.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, soniais wrth fy ng诺r am y syniad o gyhoeddi cyfrol, yn y Gymraeg, gyda phytiau gan wahanol bobl yn s么n am eu profiadau nhw o salwch meddwl.

Gyda chefnogaeth arbennig gwasg Y Lolfa a chyfraniadau anhygoel o onest gan unigolion dewr, dyma fynd ati i greu'r gyfrol.

Roeddwn am i bobl oedd yn dioddef gael darllen rhywbeth yn eu mamiaith, ac roeddwn am roi gobaith iddyn nhw - dim ots pa mor fach neu ddwys oedd eu problemau, roeddem ni, y cyfrannwyr, yn brawf bod modd gwella a dianc o'r crafangau hyll hynny.

"Cyfrol llawn gobaith"

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa

Cyfrol i bawb yw 'Gyrru Drwy Storom'. Mae llawer iawn ohonom yn dod i gyswllt 芒 salwch meddwl mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn ddioddefwyr ein hunain neu yn nabod aelod o'r teulu neu ffrind sydd yn diorddef.

Pan oeddwn i'n s芒l roedd hi'n anodd iawn cael trafod salwch meddwl yn y Gymraeg a dwi'n meddwl bod cael trafod materion iechyd yn eich mamiaith yn hanfodol ar gyfer gwella.

Nid cyfrol drist yw hon ond cyfrol llawn gobaith, oherwydd mae pob storm yn dod i ben ac mae'r straeon yma yn dangos ei bod hi'n bosib gwella.

Ceir cyfraniadau gan y gwleidyddion Llyr Huws Gruffydd a Bethan Jenkins, y beirdd Iwan Rhys a Hywel Griffiths, yr awduron Angharad Tomos a Caryl Lewis, y dramodydd Malan Wilkinson, y cyflwynydd teledu Geraint Hardy, Dr Mair Edwards, Angharad Gwyn a minnau.

Mae'n cynnwys cerddi, ysgrifau a llythyr ac yn trafod problemau iselder dwys, alcoholiaeth, iselder 么l-geni ac anorecsia.

Mae pob un o'r cyfranwyr yn brwydro i roi diwedd ar y stigma sydd ynglwm wrth y geiriau salwch meddwl. Bydd yn anodd darllen drwy llawer o'u profiadau ond, wrth ddarllen, cofiwch fod bob un stori hefyd yn llawn gobaith gan fod pob un wedi goroesi'r storom.

Ffynhonnell y llun, Alaw Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Alaw a Hywel Griffiths a'u merch Lleucu Haf

Mae g诺r Alaw, y bardd Hywel Griffiths, hefyd wedi cyfrannu at y gyfrol:

Catharsis

Nid cyfrol o gyfraniadau gan bobl sydd wedi dioddef salwch meddwl yn unig yw hon - ceir cyfraniadau gan eu teuluoedd hefyd. O ystyried cynifer o bobl sydd yn dioddef ac ein bod yn debygol iawn o adnabod rhywun sy'n dioddef rhyw dro, mae clywed profiadau felly yn bwysig iawn hefyd.

Yn ogystal 芒 darllen am brofiadau pobl eraill sydd yn gorfod delio gyda salwch meddwl, mae cael ysgrifennu am y peth yn help mawr hefyd. Roedd cael ysgrifennu cerdd am y profiad yn fodd o gau pen y mwdwl ar gyfnod a set o brofiadau penodol.

Mae'r gyfrol yn brawf pendant bod modd gwella o salwch meddwl a gobeithio bod hynny yn rhoi gobaith i bobl. Hefyd, gobeithio ei fod yn dangos bod ysgrifennu am brofiadau yn gallu helpu ac yn rhywbeth y gall unrhyw un ei wneud. Roedd yn syniad arbennig gan Alaw, ac rwy'n falch iawn ohoni.