´óÏó´«Ã½

Cyngor Branwen, brenhines Maes B

  • Cyhoeddwyd
BranwenFfynhonnell y llun, Branwen Llewellyn

Mae Branwen Llewellyn yn hen law ar y busnes gwersylla mewn gŵyl. Felly paid mentro ei heglu hi at Sir Fynwy eleni heb ddilyn cyngor gwerthfawr brenhines Maes B. Dyma ei rhestr hanfodol hi o'r pethau i'w gwneud ac i'w hosgoi er mwyn edrych yn ôsym pan ti'n treulio dy amser mewn pabell.

Dwni'm amdanoch chi, ddarllenwyr Cymru Fyw, ond i mi, newydd ddechrau mae'r haf. Mae'r ysgolion wedi cau, yr heulwen a'r glaw yn deud helo am yn ail, ac mae tymor y gwyliau wedi dechrau.

O'n blaenau mae'r Steddfod, ac yn benodol Maes B. Falle mai dyma'r tro cyntaf i ti fynd i ŵyl, neu falle mai dyma ŵyl cynta'r flwyddyn. Gan fy mod i wedi mynychu sawl gŵyl bob blwyddyn ers dros ddegawd, a mod i wedi treulio hanner pob haf mewn pabell, dwi'n ystyried fy hun yn dipyn o arbenigwr ar y busnes gwersylla mewn gŵyl 'ma. Felly, dyma rannu fy rheolau euraidd gyda thi er mwyn sicrhau y cei di amser gwerth chweil yn yr ŵyl.

#1 Cer â chot dda

Y flwyddyn gyntaf i mi fynd i Maes B, daeth dilyw. Roedd pebyll yn gelain dros y cae, a phyllau go sylweddol yng nghorneli unrhyw bebyll oedd yn dal i sefyll trwy ryw wyrth. Fe benderfynais i fabwysiadu'r motto 'lleiaf dwi'n gwisgo, lleiaf dwi'n gwlychu', ac er i hyn weithio i ryw raddau yn ystod y dydd, erbyn iddi dywyllu roeddwn i mor oer roedd fy esgyrn i'n crynu. Cer am got wrth-ddŵr efo hwd ac mi fyddi di'n hapus a chysurus (ac yn smyg).

Ffynhonnell y llun, keith morris
Disgrifiad o’r llun,

Ydy'r gwersyllwyr yma wedi cofio eu 'bum bags' a'r papur toiled hanfodol?

#2 Paid â gwisgo jîns

Dydyn nhw byth yn sychu!

#3 Pacia ddigon o haenau

Un peth am wersylla ydi fod y tywydd mor gyfnewidiol a fedri ddim piciad adre i 'nôl siwmper. Pacia ddigon o haenau - crysau t, cardigans, siwmperi, sanau, fests (yndw, 'dwi 'di mynd yn hen braidd). Os byddi di i ffwrdd o'r babell am beth amser, cer â backpack efo ti fel y galli di ddiosg neu wisgo dy haenau wrth i'r tywydd newid. Hefyd, cofia bacio thermals a siwmperi nos - fydd y pyjamas cotwm Primark 'na werth dim byd.

#4 Osgoi gwisgo gwyn ar bob cyfrif

Does dim da all ddod o wisgo gwyn i ŵyl. Mae gwyn yn dangos popeth - seidr, sôs coch, saim, gwair, mwd… Hyd yn oed os byddi di'n hynod ofalus ac yn yfed gin a lemonêd ac yn bwyta dim ond fferins, alli di ddim rheoli'r tywydd (ac mi alli weld trwy ffrog wen wlyb megis trwy ffenest), na phobl eraill (ie, seidr a black sydd wedi'i ollwng lawr dy gefn, a do, ti newydd eistedd mewn paella).

#5 Croesawu'r 'bum bag'

Mae gan y bum bag druan enw drwg. Mae'n cael ei gysylltu gyda Mr. Motivator a thwristiaid sy'n gwisgo sandals a 'sanau. Dwi 'di bod yn arwain ymgyrch bersonol ers rhai blynyddoedd bellach i gael pobl i groesawu'r bum bag yn ôl i'n bywydau. Maen nhw'n ddiogel dros ben gan eich bod chi'n cadw'ch eiddo ar eich person, ac maen nhw'n edrych yn ôsym. MAEN NHW'N EDRYCH YN ÔSYM!

#6 Os wyt ti ofn ei golli, gad o adre

Paid â dod â'r Ray Ban's na'r Mulberry, gad yr iPad ar dy wely, a gad y siwmper wnaeth Nain ei gweu yn y wardrob. Os oes gan rywbeth werth sentimental i ti neu werth ariannol go uchel, gad o adre - rhag ofn.

#7 Cofia bacio'r canlynol:

Bagiau bin, gordd, welingtyns, fflach lamp, papur toiled. Os wyt ti am anwybyddu popeth dwi wedi'i nodi yn barod, paid ag anwybyddu'r rhestr yma. Rho dy gês mewn bag bin ac mi gadwith popeth yn sych, ac mi gadwith o'r malwod oddi ar dy eiddo. Mae'r gordd yn bwysig hefyd. Cyn heddiw (eleni deud y gwir) anghofiais i bacio gordd a bu raid i mi daro pegiau'r dent i dir caregog efo sandal.

Disgrifiad o’r llun,

Welingtyns: boed yn lliwgar, batrymog neu draddodiadol - paid â dod i Maes B hebddyn nhw!

Yndi, mae welingtyns yn afiach, ond waeth i ni heb â bod yn ystyfnig - mae nhw yn hanfodol os ydi hi'n wlyb. Ar ôl Green Man mwdlyd 2012, bu raid i mi daflu pâr o Converse a phâr o bŵts Dr Martens. Diwrnod trist, bois. Mae'r fflachlamp yn handi wrth i ti chwilio am dy byjamas neu drio tynnu dy lensys, ac mae'r rheswm dros y papur toiled reit amlwg.

Felly, i ba bynnag wyliau y byddi di'n mynd iddyn nhw eleni, dilyna fy rheolau euraidd ac mi gei di chwip o amser da. Bydd yn ofalus a joiaaaa!

Cyhoeddwyd y darn hwn yn wreiddiol ar ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw adeg Eisteddfod Genedlaethol 2015.

Mwy o straeon a newyddion o'r Eisteddfod Genedlaethol