大象传媒

Pennaeth prifysgol yn amddiffyn ei ddelio 芒 chwynion

  • Cyhoeddwyd
Syr Roger Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Syr Roger Jones mai rheolau oedd ar fai am yr oedi wrth ddelio gyda phryderon

Mae cadeirydd Cyngor Prifysgol Abertawe wedi amddiffyn yr amser mae hi wedi ei gymryd i ddelio gyda chwynion am uwch aelod o staff.

Fe wnaeth yr Athro Nigel Piercy ymddiswyddo fel deon yr Ysgol Reolaeth ddydd Gwener oherwydd "gwahaniaethau" gyda'r brifysgol.

Mae rhai aelodau o staff y brifysgol wedi honni bod yr adran yn cael ei rhedeg fel "unbennaeth".

Dywedodd gadeirydd Cyngor y Brifysgol Syr Roger Jones mai "rheolau" oedd ar fai am yr oedi wrth ddelio gyda phryderon.

'Ofn parhaol'

Dywedodd academydd sydd bellach wedi gadael y brifysgol "bod 'ofn' parhaol, wnaeth ddechrau troi'n ddiwylliant o fwlio".

Mewn adroddiad ar yr ysgol, fe ddaeth y canghellor Syr Roderick Evans i'r canlyniad y dylai uwch-d卯m rheoli'r brifysgol gynnal ymchwiliad i'r Ysgol Reolaeth.

Fel rhan o'r ymchwiliad, fe gafodd fforwm ei gynnal i staff leisio eu pryderon yn agored - gyda honiadau pellach yn cael eu gwneud. Mae'r ymchwiliad yn parhau.

Ffynhonnell y llun, The Waterfront
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd yr Athro Nigel Piercy ei benodi yn Ddeon yr Ysgol Reolaeth yn haf 2013

Yn dilyn yr honiadau, fe wnaeth nifer gwestiynu pam nad oedd yr uwch-d卯m rheoli wedi ymateb yn gynt.

Dywedodd Syr Roger: "Mae hi'n anodd iawn gwneud y newidiadau, yn enwedig pam mai rhyddid academaidd yw'r ystyriaeth.

"Mae'r rheolau yn rhai cymhleth, ac mae hi'n cymryd amser i wneud pethau fel hyn."

Mae 大象传媒 Cymru yn deall bod mab yr Athro Piercy, Niall, wedi cael ei wahardd fel dirprwy ddeon, a bydd yr Athro Marc Clement yn cael ei wneud yn bennaeth dros dro ar yr Ysgol Reolaeth ddydd Llun.