Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Geid i gigs Steddfod 2015
- Awdur, Teleri Glyn Jones
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Heb os, mae wythnos yr Eisteddfod yn un hollbwysig i'r s卯n gerddoriaeth Gymraeg - tybed beth fydd yn mynd 芒'ch bryd chi eleni?
sicr fydd 'na ddim prinder dewis, gyda'r trefnwyr yn "addo mwy o gerddoriaeth nag erioed" ym Mhrifwyl Maldwyn a'r Gororau.
Gohebydd 大象传媒 Cymru, ac awdur y blog cerddoriaeth , Teleri Glyn Jones, sydd wedi bod yn pori drwy'r arlwy ac mae hi wedi s么n wrth Cymru Fyw am beth fydd rhai o'i huchafbwyntiau hi.
Wrth i gyn lleied o bobl fynychu gigs Cymraeg yn ystod y flwyddyn, mae wythnos yr Eisteddfod yn gyfle prin i'r artistiaid berfformio o flaen torf fawr ac i farchnata'u cerddoriaeth i gynulleidfa newydd.
Eleni, fel arfer, mae 'na wledd o berfformwyr a chyfle i wrando ar hen ffefrynnau yn ogystal 芒 darganfod synau newydd.
Dyma rai o'r gigs a'r digwyddiadau cerddorol sy'n cael lle yn fy amserlen eisteddfodol i...
Gigs
Mae Llwyfan y Maes wedi dod yn fwyfwy poblogaidd dros y blynyddoedd, a tydi'r arlwy eleni ddim yn siomi.
Ar y Dydd Gwener ola', mi fydda' i yn mynnu lle ym mlaen y dorf o ganol pnawn, i gael fy swyno gan Plu am 15:00, cyn cael fy neffro gan Fand Pres Llareggub am 17:00.
Fel petai hynny ddim yn ddigon, mi fydd Gwenno yn rhoi blas i ni o'i halbwm diweddara'. Mae 'Y Dydd Olaf' wedi cael ymateb ffafriol iawn ers cael ei ail-ryddhau ar label Heavenly Records.
Ac yn dilyn llwyddiant 'Dwyn yr Hogyn Nol', Geraint Jarman fydd yn dod 芒'r cyfan i ben ar y Maes. Ac ar 么l iddo 'godi to' castell Caernarfon yng Ng诺yl Arall ychydig wythnosau'n 么l, 'dw i'n sicr y bydd hyd yn oed yr eisteddfodwyr mwya' parchus ar eu traed.
Ar y nos Sadwrn, mae 'na ddau ddewis, Yws Gwynedd ac Yr Ods ar Lwyfan y Maes neu Candelas a'r Ffug ym Maes B. Ers bron i 10 mlynedd, mae Yr Ods wedi bod yn s诺n cyfarwydd mewn gigs ar draws Cymru. Ond yn y misoedd diwetha', maen nhw wedi bod yn ddistaw. 'Dw i am fanteisio ar gyfle prin i ganu "Fel Hyn Am Byth" nerth fy mhen. Ac os welwn ni hanner brwdfrydedd torf llynedd i set Yws Gwynedd eleni, mi fydd hi'n noson fywiog iawn.
Yn ystod y pnawn mae Palenco hefyd ar Lwyfan y Maes, band 'dw i'n edrych ymlaen at weld yn fyw ar 么l cael gymaint o flas ar eu halbwm newydd. Fedra'i ddim dewis, felly, yn syth ar 么l Yr Ods mi fydda' i'n codi pac a'i heglu hi am Faes B, i smalio bod yn roc a r么l wrth wrando ar Candelas ac Y Ffug.
I'r rhai sy'n mwynhau cerddoriaeth werin, mae'r T欧 Gwerin ar y Maes yn cynnig amrywiaeth helaeth - o gymanfa gerdd dant i sesiynau clera. Uchafbwynt i mi fydd Detholiad o 'Welsh Folk Songs' Dr Meredydd Evans, gyda Gwilym Rhys Bowen (Plu ac Y Bandana). Mae hwnnw Ddydd Llun am 16:00.
S诺nami ydy band prysura' Cymru ar hyn o bryd, efallai, wrth iddyn nhw hyrwyddo'u halbwm cyntaf, ar label IKACHING. 'Dw i wedi cael mymryn o ragflas, a galla' i gadarnhau y bydd dilynwyr y band yn bl锚s.
Albwm Cymraeg y Flwyddyn
Yn ei hail flwyddyn, mae gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn profi amrywiaeth a chryfder y s卯n gerddorol ar hyn o bryd. Cerddoriaeth i blant, gwerin amgen, pop pur, reggae a cherddoriaeth electroneg, mae 'na rywbeth ar y rhestr fer i bawb, ac eleni mae hi wir yn anodd rhagweld pwy fydd yn cipio'r wobr. Mae gan y beirniaid dasg anodd wrth benderfynu, 'dw i'n falch nadfi sy'n gorfod dewis.
Y Rhestr Fer:
- 9 Bach - Tincian (Real World)
- Al Lewis - Heulwen o Hiraeth (Al Lewis)
- Candelas - Bodoli'n Ddistaw (I-Kaching)
- Datblygu - Erbyn Hyn (Ankst Music)
- Fernhill - Amser
- Gwenno - Y Dydd Olaf (Peski)
- Yws Gwynedd - Codi/\Cysgu
- Geraint Jarman - Dwyn yr Hogyn Nol (Ankst)
- Plu - Holl Anifeiliaid y Goedwig (Sain)
- R Seiliog - In HZ (Turnstyle)
Mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi brynhawn Dydd Gwener, 7 Awst, am 15:00 yng Nghaffi Maes B.
Dim ond detholiad bach sydd yma o'r holl gerddoriaeth a'r digwyddiadau sydd ar gael.
Mae 'na restr lawn o ddigwyddiadau'r Maes a Maes B ar , ac mae gigs Cymdeithas yr Iaith yn cael eu rhestru ar eu .
Mwynhewch!