Mae Geraint Stanley Jones wedi marw yn 79 oed
- Cyhoeddwyd
Bu farw Geraint Stanley Jones, un o ffigyrau amlyca'r byd darlledu yng Nghymru, yn 79 mlwydd oed.
Ar 么l gyrfa lwyddiannus fel cynhyrchydd, bu'n rheolwr 大象传媒 Cymru ac yn Brif Weithredwr S4C. Yn ogystal, chwaraeodd ran amlwg yn natblygiad y celfyddydau yng Nghymru.
Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Ramadeg Pontypridd a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor cyn dechrau ar ei yrfa gyda'r 大象传媒 ar ddechrau'r 60au.
Treuliodd gyfnodau yn cynhyrchu rhaglenni materion cyfoes a rhaglenni dogfen cyn cael ei benodi yn Bennaeth Rhaglenni yn 1974.
'Ffrind mynwesol'
Un o'i gyfrifoldebau cyntaf yn y swydd honno oedd goruchwylio dechrau'r gyfres boblogaidd Pobol y Cwm - ychydig a wyddai bryd hynny y byddai helyntion trigolion Cwmderi yn dal i hawlio sylw gwylwyr teledu 35 o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Ar 么l olynu Owen Edwards fel Rheolwr 大象传媒 Cymru yn 1981, fe osododd y sylfaen ar gyfer y berthynas rhwng y gorfforaeth ac S4C.
Yn 1985 cafodd swydd reoli gyda'r 大象传媒 yn Llundain, lle'r oedd yn gyfrifol am ddarlledu rhanbarthol. Bedair blynedd yn ddiweddarach daeth yn 么l i Gymru i gymryd yr awenau yn S4C.
Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weithredwr cafodd ffilm Hedd Wyn ei henwebu am Oscar.
Ymhlith ei swyddogaethau eraill, roedd wedi bod yn aelod o fyrddau rheoli Opera Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru, yn is-lywydd y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, ac fe roedd yn gyn-aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru.
Yn 1993 fe gafodd ei anrhydeddu 芒'r CBE am ei wasanaeth i ddarlledu.
Bu'n westai penblwydd ar raglen Dewi Llwyd ar 大象传媒 Radio Cymru ym mis Ebrill 2013.
Dywedodd Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Mae cyfraniad aruthrol Geraint i fywyd cenedlaethol a diwylliannol Cymru, dros nifer o ddegawdau, o'n cwmpas ym mhob man. Ei weledigaeth a'i angerdd ef arweiniodd at sefydlu dwy orsaf radio genedlaethol, cyfres ddrama deledu hynaf y 大象传媒, Pobol y Cwm, ac wrth gwrs, helpu i sefydlu S4C yn 1982.
"Yn fwyaf oll, Geraint o'dd un o'r dynion mwyaf caredig a hael i fi gwrdd 芒 nhw erioed. Na'th e' byth golli ei gariad at ddarlledu ac ro'dd yn credu'n angerddol yn y cyfleoedd a'r sialensau.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cynifer ohonom wedi bod yn ddigon ffodus i elwa o'i eiriau a'i gyngor doeth ar nifer o achlysuron - ac ro'dd ei angerdd tuag at 大象传媒 Cymru ac at ddarlledu wastad yn amlwg.
Dywedodd Gareth Price, ei olynydd fel Rheolwr 大象传媒 Cymru a chyfaill iddo: "Fel cyfanwaith, roedd o'n ddyn darlledu o'r dechrau.
"Dwi wedi colli ffrind mynwesol ond mae Cymru wedi colli dyn mawr, a welwn ni byth rywun fel yna eto."
Mae'n gadael ei weddw Rhiannon a dwy ferch Sioned a Siwan.