大象传媒

Lynette White: Adolygiad ar 么l achos sifil

  • Cyhoeddwyd
Lynette White
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Lynette White ei llofruddio yn 1988

Bydd adolygiad o'r achos a fethodd yn erbyn wyth plismon oedd wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn cael ei gyhoeddi ar 么l eu hachos sifil.

Mae'r cyn swyddogion gyda Heddlu'r De yn dwyn achos yn erbyn y llu wedi honiadau ynghylch yr ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White.

Yn 2011 fe'u cafwyd yn ddieuog o wyrdroi cwrs cyfiawnder wedi i dri dyn gael eu carcharu ar gam am y llofruddiaeth yn 1988.

Disgwylir canlyniadau'r adolygiad yn 2016.

Ar 14 Chwefror 1988, daethpwyd o hyd i Lynette White wedi ei thrywanu mwy na 50 o weithiau yn y fflat yng Nghaerdydd ble roedd hi'n gweithio fel putain.

'Tri Caerdydd'

Wedi ymchwiliad gan Heddlu'r De, carcharwyd Stephen Miller, Yusef Abdullahi ac Anthony Paris ("Tri Caerdydd") am ei llofruddiaeth yn 1990.

Ond diddymwyd y dyfarniadau wedi ap锚l yn 1992, wedi i farnwyr glywed eu bod wedi eu cam-gyhuddo.

Dechreuodd y llu ymchwiliad newydd, ond fe gymrodd hi tan 2003, 11 mlynedd wedi i Dri Caerdydd gael eu rhyddhau, i gael hyd i'r llofrudd go iawn.

Roedd wedi arwain ymchwilwyr i gartref Jeffrey Gaffoor ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd ei arestio ac yn ddiweddarach .

Achos sifil

Yn y blynyddoedd wedyn, fe gododd cwestiynau ynghylch yr ymchwiliad gwreiddiol, ac fe arweiniodd hynny yn y pen draw at gyhuddo wyth cyn-blismon o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Ond fe ddaeth yr achos yn eu herbyn i ben pan gollodd erlynwyr hyder yn y broses ddatgelu.

Cafwyd yr wyth yn ddieuog, ac ers hynny maen nhw wedi dwyn achos sifil yn erbyn Heddlu'r De.

Ddydd Iau, mewn gwrandawiad cyn yr achos yn yr Uchel Lys, dywedwyd y byddai casgliadau'r adolygiad i'r mater yn cael eu cyhoeddi ar 么l i'r achos sifil ddod i ben.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i Richard Horwell QC, a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref i arwain yr ymchwiliad, adrodd n么l erbyn yr haf, ond oherwydd yr achos sifil, dyw e ddim bellach yn bwriadu cwblhau'r ymchwiliad tan y gwanwyn.

Disgwylir y bydd yr achos sifil yn cael ei glywed ym mis Hydref.