Gwobr Goffa Daniel Owen: Heddlu'n ymchwilio
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i g诺yn a gafwyd yn ymwneud 芒 chynnwys darn a gyflwynwyd ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen.
Mae Gwobr Goffa Daniel Owen yn un o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Rhoddir gwobr o 拢5,000 am nofel yn Gymraeg sydd heb ei chyhoeddi o'r blaen.
Mae'r wobr er cof am y nofelydd Cymraeg Daniel Owen, a fu farw yn 1895.
Meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Iestyn Davies: "Gallaf gadarnhau ein bod yn parhau i ymchwilio i atgyfeiriad a wnaed i ni ym mis Mawrth eleni gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Mae'r g诺yn a gafwyd yn ymwneud 芒 chynnwys darn a gyflwynwyd ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen.
"Barnwyd fod y gwaith dan sylw o natur tramgwyddus ac anweddus ac mae'n cael ei ymchwilio iddo fel trosedd dan y Ddeddf Cyfathrebiadau Anweddus.
"Gan mai i Swyddfa'r Eisteddfod yn yr Wyddgrug yr anfonwyd y gwaith, Heddlu Gogledd Cymru sy'n arwain yr ymchwiliad."
Cyfeirio at yr heddlu
Y beirniaid eleni oedd Dr Angharad Price, Dewi Prysor a Robert Arwyn.
Wrth siarad ar raglen y Post Prynhawn, cadarnhaodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, eu bod wedi derbyn darn o waith oedd yn anweddus ar gyfer cystadleuaeth y nofel - Gwobr Goffa Daniel Owen - eleni.
"Fe wnaethon ni gysylltu gyda chyfreithiwr am ein bod yn credu bod cynnwys y gwaith wedi achosi pryder mawr, a'r cyngor gafwyd oedd i gyfeirio'r mater at yr heddlu.
"Roedd y nofel yn cyfeirio at weithredoedd sy'n droseddol dros ben... doedd dim dewis ond gweithredu."
Ychwanegodd Mr Roberts nad oedd yr Eisteddfod wedi canfod pwy yw'r ymgeisydd gan fod yr enw a manylion cysylltu ddaeth gyda'r ymgais yn ffug.