大象传媒

Agor lag诺n syrffio yn Nyffryn Conwy

  • Cyhoeddwyd
surff

Mae lag诺n syrffio cyntaf o'i fath yn y byd, wedi agor yn Nyffryn Conwy ddydd Sadwrn.

Mae canolfan Surf Snowdonia wedi ei lleoli ar safle hen waith alwminiwm ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.

Roedd y gost o ddatblygu'r ganolfan yn Nolgarrog yn 拢12 miliwn, a'r bwriad yw denu 75,000 o bobl bob blwyddyn.

Mae perchnogion Surf Snowdonia yn honni eu bod wedi creu'r don syrffio hiraf o'i math yn y byd.

Disgrifiad,

Adroddiad Dafydd Gwynn

Mae perchnogion Surf Snowdonia yn honni eu bod wedi creu'r don syrffio hiraf o'i math yn y byd.

Mae'r llyn mewndirol yn cwmpasu ardal o faint chwe cae p锚l-droed.

Mae'r lag诺n si芒p diemwnt yn mesur 300m o hyd a 110m o led, ac yn dal mwy na chwe miliwn galwyn o dd诺r glaw wedi'i hidlo sy'n cael ei bibellu i lawr o gronfeydd ar y mynydd.

Mae ffoil tanddwr wedi ei osod o dan y pier ar y lag诺n, ac yn rhedeg ar hyd y llyn nes bod ton yn ffurfio ac yn cyrraedd hyd at saith troedfedd o uchder.

Mae'r cwmni yn dweud y bydd y ffoil yn creu hyd at 50 o donnau'r awr.

Ond er bod yr atyniad wedi creu swyddi ac wedi bod yn hwb i'r economi - mae rhai pobl yn cwyno nad oes enw Cymraeg i'r atyniad.