Prifysgol Caerdydd: Gwersi Cymraeg i bawb

Mae cynllun newydd gan Brifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr y brifysgol ddysgu Cymraeg ochr yn ochr 芒'u hastudiaethau.

Cafodd 'Cymraeg i Bawb' ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol bnawn Llun gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

O fis Hydref 2015, fe fydd myfyrwyr sy'n awyddus i ddysgu Cymraeg yn cael eu haddysgu mewn grwpiau a bydd ganddyn nhw fynediad at adnoddau ar-lein i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau iaith.

Fe fydd 'na adnodd ymwybyddiaeth iaith ar gael i fyfyrwyr hefyd i ddatblygu eu dealltwriaeth o statws yr iaith heddiw.

Bydd 'Cymraeg i Bawb' yn canolbwyntio ar addysgu ar lefel dechreuwyr i gychwyn, cyn i'r fenter gael ei datblygu ar gyfer pob lefel gallu.

'Llysgenhadon dros Gymru'

Wrth lansio'r fenter, fe ddywedodd Carwyn Jones: "Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn cael y cyfle i fynd ar gyrsiau dysgu Cymraeg a mwynhau ein diwylliant. Yn wir, bydd llawer yn mynd yn eu blaenau i fod yn llysgenhadon dros Gymru ymhell ar 么l gadael y Brifysgol.

"Rwy'n si诺r y bydd myfyrwyr sy'n dod i Gaerdydd yn mwynhau'r cyfle i ddysgu'r iaith a chymdeithasu gyda myfyrwyr eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffwn longyfarch Prifysgol Caerdydd ar y cynllun 'Cymraeg i Bawb' arloesol."

Meddai'r Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Fel Ysgol, rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y myfyrwyr ar draws y Brifysgol sy'n cael y cyfle i ddysgu Cymraeg.

"Mae'r cynllun hwn yn enghraifft arall o sut ydym yn arwain y ffordd drwy ddarparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu iaith ochr yn ochr 芒'u cyrsiau gradd.

"Rydym yn hyderus y bydd y sgiliau iaith y byddant yn eu datblygu drwy'r cynllun Cymraeg i Bawb o fudd enfawr iddynt; yn arbennig i'r rheini sy'n bwriadu byw a gweithio yng Nghymru.

"Rydym eisoes yn edrych y tu hwnt i'r flwyddyn gyntaf, ac mae Ysgol y Gymraeg a'r Brifysgol yn edrych ymlaen at ddatblygu ac ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr y dyfodol."