大象传媒

Beti George yn trafod dementia

  • Cyhoeddwyd
Beti George
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Beti George yn cyfeirio at ei phrofiad personol o ofalu am ei g诺r sydd 芒 dementia

Mi ddylai gwasanaethau iechyd a chymdeithasol uno, yn 么l y ddarlledwraig Beti George, mewn trafodaeth ar faes y Brifwyl ym Meifod ddydd Mercher.

Mae'n dweud y byddai hyn yn arbed arian i'r llywodraeth ac y dylai saith cyngor fodoli yn y dyfodol fyddai yn cyfateb i'r saith bwrdd iechyd.

Ar hyn o bryd, 22 o awdurdodau lleol sydd yna yng Nghymru ond mae yna fwriad i'w cwtogi.

Roedd y newyddiadurwraig yn traddodi darlith ar y maes, gan s么n am ei phrofiad personol gyda'r cyflwr dementia. Mae hi'n gofalu am ei g诺r sydd 芒 dementia.

Yn 么l Beti George, does yna ddim llawer o help i bobl sydd 芒 dementia, er bod yna fwy o ymwybyddiaeth o'r cyflwr erbyn hyn.

'Ar ben eu hunain'

"Mae unigolyn yn cael y diagnosis, mae'n cael ei anfon adref ac os oes 'na ofalwr, yn 诺r neu'n wraig, yn fab neu'n ferch, o hynny ymlaen maen nhw ar ben eu hunain."

Mae'n dweud bod gwahanol fudiadau yn cynnig help ond bod yn rhaid gwneud yr ymdrech i'w gael.

"Mae rhaid i ni ein hunain fod 芒'r egni ac amser i ddod o hyd i ba bynnag help sydd mas 'na a dyna'r union beth na all gofalwyr wastraffu - amser ac egni. Mae'r rheiny'n cael eu defnyddio wrth ofalu."

Yn ystod y ddarlith dywedodd hefyd fod yna annhegwch am fod nifer sydd gyda dementia yn talu am ofal cymdeithasol, tra bod cleifion canser yn cael help a thriniaeth am ddim.

Roedd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn cadeirio'r ddarlith. Mi ddywedodd na fyddai uno gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn gweithio ond bod hi'n bosib cydweithio yn agosach.

Dywedodd hefyd mai'r realiti o achos y sefyllfa ariannol fyddai bod yn rhaid i gleifion dementia barhau i dalu am gymorth yn y dyfodol.

Mae yna lwfansau yn bodoli ar gyfer cleifion sydd 芒 dementia.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.