Gwrthod cais am waith glo brig
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Caerffili wedi gwrthod cais cynllunio gan gwmni Miller Argent ar gyfer gwaith glo brig dadleuol Nant Llesg yng Nghwm Rhymni.
Pleidleisiodd 12 aelod yn erbyn y datblygiad ar sail effaith weledol y datblygiad gyda dau yn ymatal eu pleidlais.
Ni wnaeth unrhyw un bleidleisio o blaid.
Roedd y cwmni wedi dweud y byddai'r datblygiad yn creu hyd at 239 o swyddi llawn amser ac yn arwain at fuddsoddiad blynyddol o 拢13 miliwn.
Bu aelodau o fudiad Cyfeillion y Ddaear yn protestio y tu allan i'r cyfarfod.
Ym mis Mehefin fe wnaeth y pwyllgor ohirio penderfyniad ar y cais er mwyn rhoi amser i swyddogion y cyngor ganfod achosion priodol i'w wrthod.
Eisoes mae Miller Argent wedi awgrymu y gallai'r awdurdod wynebu bil cyfreithiol sylweddol os fydd y cwmni'n llwyddo gydag ap锚l yn erbyn y penderfyniad terfynol.
Gan fod swyddogion Cyngor Caerffili wedi argymell caniat谩u'r datblygiad yn flaenorol, roedd y cwmni'n awgrymu y byddai ganddyn nhw le i apelio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2013