大象传媒

'Darnau o Gymru' ar eu ffordd i blaned Mawrth

  • Cyhoeddwyd
Carys Huntley a Dr Rachel Cross
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carys Huntley a Dr Rachel Cross o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth gyda'r teclynnau fydd ar robot ExoMars 2018

Fe gafodd eisteddfodwyr gyfle i weld teclynnau a fydd yn glanio ar blaned Mawrth fel rhan o daith ExoMars 2018 i chwilio am fywyd ar y blaned goch yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.

Roedd modelau o'r teclynnau sydd wedi eu creu yng Nghymru yn y babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar y maes drwy'r wythnos.

Adran Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth sydd wedi datblygu'r tri theclyn bach a fydd ar y robot sy'n cael ei anfon i'r blaned gan Asiantaeth Gofod Ewrop (ESA).

Math arbennig o ddrych ydy un o'r teclynnau fydd yn cael ei osod o dan y robot er mwyn gallu gweld os oes rhywbeth wedi torri, os oes rhwystr yn y ffordd neu os yw'r robot wedi mynd yn sownd.

Mae'r teclyn arall, sydd wedi ei greu gan wyddonwyr Aberystwyth gan ddefnyddio gwydr lliw, yn allweddol er mwyn gweld yn iawn beth yw lliwiau'r blaned. Gan mai ychydig o os么n sydd yn atmosffer Mawrth mae ymbelydredd uwch-fioled y blaned yn pylu ei lliwiau ond nod y teclyn yma fydd 'cywiro'r' lliwiau rydyn ni'n gallu eu gweld.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Rachel Cross yn dal un o'r teclynnau

Marcwyr i fesur pellter ar gyfer tynnu lluniau yw'r trydydd peth sydd wedi ei ddatblygu yn Aberstwyth, eglurodd Dr Rachel Cross ar y maes ym Meifod.

Mae Dr Cross yn rhan o'r t卯m sydd wedi datblygu'r teclynnau gyda Dr Matt Gunn a Dr Laurence Tyler o'r Brifysgol.

"Bydd 'na ddarn bach o Gymru ar y blaned Mawrth!" meddai Dr Cross, "mae'n gynhyrfus iawn."

Ychwanegodd y bydd logo Prifysgol Aberstwyth ar rai o'r darnau fydd yn glanio ar blaned Mawrth!

Mwy o straeon o Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2015