大象传媒

Bryn Williams: Cyngor y cogydd

  • Cyhoeddwyd
Bryn WilliamsFfynhonnell y llun, Mei Lewis

Wrth i nifer o bobl ifanc ystyried eu dyfodol ar 么l derbyn eu canlyniadau TGAU yr wythnos diwethaf, fe ofynnodd Cymru Fyw i'r cogydd Bryn Williams rannu ychydig o gyngor am sut mae wedi cael gymaint o lwyddiant yn ei faes:

Pa mor hen oeddet ti'n penderfynu dod yn gogydd, a wnes di ystyried unrhyw yrfa arall?

Nes i weithio ym mecws Alwyn Thomas yn Ninbych rhwng pan o'n i'n 12 ac 17, ond yn 16 nes i benderfynu mod i isio bod yn gogydd.

Doedd dim byd arall wedi croesi fy meddwl, cogydd oeddwn i isio bod.

Wnest di erioed amau os fyddet ti'n gogydd llwyddiannus?

Mae'n gwestiwn anodd i ateb. Dwi wastad isio bod y gorau ym mhopeth dwi'n ei wneud - hyd yn oed wrth nofio neu chwarae p锚l-droed - dwi isio ennill bob tro! Mae'r un peth yn wir efo bod yn gogydd.

A gan mod i'n ei fwynhau, mae'n hawdd i mi ei wneud o.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe enillodd Bryn Williams y gyfres 'The Great British Menu' yn 2006 a 2007

Pa gyngor sydd gen ti i berson ifanc sydd eisiau dilyn gyrfa fel cogydd?

Y cam cyntaf yw penderfynu pa fath o gogydd wyt ti isio bod drwy drio mathau gwahanol o goginio, a gweld be ti'n ei fwynhau. Nes i drio gweithio mewn gwesty am 6 mis, ond do'n i ddim yn ei hoffi o gwbl.

O'r profiad yna nes i ddysgu mod i ddim isio gweithio mewn gwesty, a mod i isio bod yn gogydd mewn bwyty.

Felly, ffeindia pa sector sydd orau i ti. Aros yna am ddwy flynedd a dysgu'r grefft, y pethau sylfaenol, a wedyn fe elli di symud ymlaen. Paid 芒 symud o gwmpas gormod yn rhy ifanc.

Wrth edrych yn 么l ar dy yrfa, oes unrhyw beth fyddet ti'n ei wneud yn wahanol yn 16 oed?

Dim byd, byswn i ddim yn newid dim byd o gwbl.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bryn Williams wedi cael haf prysur yn agor ei fwyty newydd ym Mhorth Eirias

Beth gall y diwydiant arlwyo ei wneud i gynnig mwy o gymorth i bobl ifanc sydd eisiau bod yn gogyddion?

Mae'n bwysig bod ysgolion yn dysgu coginio. Drwy wneud hynny, mae plant yn cael profiadau gwahanol ac yn gweld drostyn nhw eu hunain os ydyn nhw'n ei fwynhau.

Dydy rhai ysgolion ddim yn gwneud digon ar hyn o bryd - mae 'na rai ysgolion lle does dim dosbarthiadau coginio ar gael o gwbl.

Fe dylai pob ysgol gynnal gwersi coginio. Mae o'n sgil bywyd, ac mae angen dysgu am goginio iach, beth sy'n tyfu mewn tymor, o ble mae'r bwyd yn dod ac yn y blaen.

Fyddet ti'n cynghori i aelodau ifanc dy deulu i fynd i'r diwydiant?

I fod yn dda yn dy waith, dim ots be' ti'n ei wneud, mae'n rhaid caru yr hyn ti'n ei wneud. Mae pethau da yn dod o wneud yr hyn ti'n ei fwynhau.