Agor gwelyau cocos Afon Dyfrdwy
- Cyhoeddwyd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi y gall y gwelyau cocos aber Afon Dyfrdwy agor am gyfnod cyfyngedig yr hydref hwn.
Yn gynharach eleni, dywedodd CNC na fyddai'r gwelyau yn agor fel arfer ym mis Gorffennaf ar 么l i arolwg ddangos gostyngiad sydyn yn nifer y cocos yno.
Ond yn dilyn arolwg pellach ym mis Awst, fe ddaeth yn amlwg fod tua 600 tunnell o gocos ar gael i'w cynaeafu, ac felly fe fydd y gwelyau'n cael eu hagor am gyfnod cyfyngedig.
Mae hyn yn golygu bod gwaith ar gael i 53 o gasglwyr cocos am ddau fis.
Dywedodd Tim Jones, Cyfarwyddwr lleol CNC: "Mae hyn yn newyddion da i bawb ac mae'n dangos sut mae rheoli'r safleoedd yma ar gyfer yr amgylchedd a'r economi yn medru gweithio.
"Byddai agor y gwelyau ym Mis Gorffennaf wedi cael effaith ddifrifol ar eu dyfodol, ar gyfer yr economi leol yn ogystal 芒'r adar sydd yn bwydo yno yn ystod y gaeaf."