大象传媒

Tour of Britain yn dechrau o Ynys M么n

  • Cyhoeddwyd
Mark CavendishFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Mark Cavendish yn gobeithio am lwyddiant gyda th卯m Etixx-Quick Step

Bydd ras seiclo'r Tour of Britain yn dechrau yng Nghymru am y tro cyntaf ddydd Sul.

Ynys M么n fydd yr ynys gyntaf i gynnal dechrau'r ras, fydd yn pasio trwy Wynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Bydd y 120 o seiclwyr wedyn yn gweithio eu ffordd trwy Cumbria, Yr Alban, Northumberland a'r Peak District cyn gorffen yn Llundain.

Dywedodd cyfarwyddwr y ras, Mick Bennett, y byddai'r llwybr yn arddangos "golygfeydd anhygoel" gogledd Cymru.

"Ry'n ni'n gwybod y byddan ni'n cael croeso cynnes ar hyd y llwybr o Ynys M么n i Wrecsam," meddai.