Canser yr ysgyfaint: Codi ymwybyddiaeth yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Wrth i ffigyrau ddangos mai canser yr ysgyfaint yw'r canser sy'n gyfrifol am y nifer fwyaf o farwolaethau yng Nghymru, mae galw ar Lywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud mwy i gynyddu'r nifer sy'n goroesi'r afiechyd.
Mae Sefydliad Canser yr Ysgyfaint Roy Castle a Chanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd wedi ymuno i geisio codi ymwybyddiaeth wedi'r ffigyrau gafodd eu cyhoeddi gan Eurocare.
Yn ogystal 芒 bod yn gyfrifol am y nifer fwyaf o farwolaethau, mae'r rhan fwyaf o bobl sydd 芒'r math hwn o ganser yng Nghymru yn derbyn diagnosis wedi i'r afiechyd fod arnyn nhw am gyfnod hir.
Fe gafodd Mair ap Gruffydd, 66 oed, ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint naw mlynedd yn 么l. Mae hi bellach yn holliach, ac yn gobeithio y gwnaiff yr ymgyrch roi hwb i bobl fynd at y meddyg ynghynt os ydyn nhw'n poeni.
"Hen dagiad oedd gen i," meddai, "ac fe sylwodd fy merch fy mod wedi bod yn tagu ers tro. Dydych chi ddim yn sylwi eich bod chi'n tagu, mae'n dod yn rhyw fath o habit.
"Felly fe es i at y meddyg, cael yr holl brofion, a'r diagnosis wedi hynny. Ro'n i'n meddwl eu bod nhw wedi drysu fy nodiadau i. Dydych chi ddim yn disgwyl iddo fe ddigwydd i chi."
Mae hi'n credu y dylai unrhywun sy'n amau fod rhywbeth o'i le fynd i weld meddyg "cyn gynted 芒 phosib", gan ei bod hi wedi goroesi er iddi gael diagnosis difrifol ar ddechrau'r driniaeth.
"Dw i dal 'ma, er iddyn nhw roi siawns o 50% i mi fyw am ddwy flynedd."
Yng nghyd-destun Ewrop, mae Cymru ar waelod y rhestr, yn safle 28 o 29 o wledydd mewn rhestr sy'n nodi faint o bobl sy'n goroesi canser yr ysgyfaint.
Nawr, mae Sefydliad Roy Castle a Chanolfan Felindre yn gobeithio gwella ar y ffigyrau hynny drwy weithio gyda'i gilydd i annog pobl i fod yn wyliadwrus o symptomau'r afiechyd, a galw ar y llywodraeth i gynnig help llaw.