大象传媒

Gobaith o leihau defnyddwyr ceir 50% yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
CarFfynhonnell y llun, bbc

Mae cwtogi ar nifer y bobl sy'n defnyddio ceir yng Nghaerdydd i 50% yn un o amcanion strategaeth ddrafft newydd ar barcio yn y brifddinas.

Mae cynigion eraill yn cynnwys cynyddu taliadau meysydd parcio fel eu bod yn cyd-fynd 芒 dinasoedd eraill o faint tebyg.

Mae'r strategaeth yn un o nifer o gynlluniau'r awdurdod lleol sy'n gobeithio gwneud Caerdydd yn un o'r prifddinasoedd mwyaf pleserus i fyw ynddi yn Ewrop.

Bydd y cynlluniau yn cael ei drafod gan gabinet yr awdurdod lleol yr wythnos nesaf, cyn mynd allan i ymgynghoriad.

Anghenion trigolion

Nod y strategaeth yw rheoli parcio, wrth ystyried anghenion mynediad trigolion, busnesau ac ymwelwyr a chynyddu'r defnydd o deithio cynaliadwy.

Un ffactor pwysig yw poblogaeth y ddinas, ac mae rhagolygon yn darogan y bydd yn tyfu o 346,100 i hyd at 413,000 erbyn 2026.

Ar hyn o bryd, mae 13,720 o lefydd parcio yng nghanol y ddinas, gyda 217,600 o bobl yn cymudo o ddydd i ddydd.

Fe fydd angen cydbwyso'r nifer o lefydd parcio sydd ar gael, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus gyflym a dibynadwy, ac annog pobl i gerdded a beicio, er mwyn gweld y gostyngiad o 50% yn 么l yr ymgynghoriad drafft.

Costau parcio

Gall ffactorau yn cynnwys hyd arhosiad, cost parcio a dirwyon parcio anghyfreithlon gael eu hystyried fel rhan o'r strategaeth.

Yn 2014, roedd parcio drwy'r dydd mewn man talu ac arddangos ar y stryd yn costio 拢5.20.

Mae dadansoddiad o barcio mewn dinasoedd tebyg eu maint yn dangos nad yw'n "pris yn briodol am barcio mewn prifddinas sy'n tyfu".

Mae'r ymgynghoriad drafft yn datgan mai cynnydd graddol yn y costau erbyn 2018 yw'r "ffordd fwyaf priodol o symud ymlaen".