GIG 111: Archwilydd yn galw am eglurder am gynllun ff么n
- Cyhoeddwyd
Mae`r Archwilydd Cyffredinol wedi galw am eglurder ar pryd y bydd llinell ff么n 111, sy`n cael ei defnyddio gan y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer achosion sydd ddim yn rhai brys, ar gael yng Nghymru.
Wrth ymddangos o flaen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Mawrth dywedodd Huw Vaughan Thomas "nad oedd dyddiad pryd y gallai'r gwasanaeth gael ei gyflwyno".
"Dwi'n meddwl bod angen eglurder am hynny," dywedodd.
Fe gyflwynwyd gwasanaeth 111 yn Lloegr ym mis Ebrill 2013.
Bryd hynny fe ddywedodd y gweinidog iechyd Mark Drakeford ei fod am "gyflymu cyflwyno" y gwasanaeth yng Nghymru, gan ychwanegu y gallai'r cynllun ffonio yn gynta' helpu pobl i gael y gofal cywir yn y lle mwya' addas.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod angen casglu gwybodaeth am "effeithiolrwydd" gwasanaeth 111.
"Mae honiadau bod y gwasanaeth 111 yn Lloegr wedi cynyddu'r pwysau ar rannau eraill o'r GIG, yn enwedig adrannau damwain ac argyfwng, yn hytrach na lleihau pwysau," meddai'r llefarydd.
Ychwanegodd y byddai'r llywodraeth yn defnyddio canlyniadau cynlluniau peilot GIG Lloegr er mwyn datblygu 111 yng Nghymru.
"Rydyn ni'n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i brofi gwasanaeth 111 dros y gaeaf. Bydd canlyniadau'r gwaith yma yn cael eu hystyried cyn ehangu'r gwasanaeth ar draws Cymru o 2016 ymlaen.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n cael 111 yn gywir yn hytrach na rhuthro."