大象传媒

Rhoi'r baton yn y to wedi 15 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Trystan Lewis Maelgwn

Yng nghyngerdd blynyddol C么r Meibion Maelgwn nos Sul, fe gyhoeddodd eu harweinydd y bydd yn rhoi'r gorau iddi wedi 15 mlynedd.

Fe ymunodd Trystan Lewis 芒'r c么r yn faswr 16 oed, gan ddweud ei fod "mor nerfus, a gweddill yr aelodau yn ddigon hen i fod yn daid i mi!"

Daeth yr alwad i arwain pan oedd Trystan yn fyfyriwr 21 oed ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Trystan yn cyfaddef iddo dynnu blewyn o drwyn ambell un pan fynnodd gynnal profion lleisiol a chael gwared ar chwech o aelodau gwreiddiol y c么r "er mwyn codi safonau a mynd 芒 Maelgwn i gystadlaethau corawl".

Fodd bynnag, dri mis wedi iddo gymryd yr awenau, roedd y c么r yn fuddugol yng nghystadleuaeth gorawl Sealink Llandudno.

Yn ei 15 mlynedd wrth y llyw, mae Trystan wedi mynd 芒'r c么r i Ganada, Washington DC, Slovenia, Guernsey a Llydaw.

"Aethon ni i Stuttgart dros yr haf - fy nhaith olaf i gyda'r c么r, er nad oedden nhw'n gwybod hynny ar y pryd," meddai.

"Dw i wedi cael amser anhygoel - wedi tyfu'n ddyn gyda nhw, ac mae'r profiadau wedi 'ngwneud i yr hyn ydw i, i raddau helaeth."

Mae Trystan Lewis yn sefyll fel AC Plaid Cymru yn Aberconwy yn etholiad y cynulliad y flwyddyn nesaf, ac yn rhoi'r gorau i arwain er mwyn canolbwyntio ar yr ymgyrch.