Mamolaeth: 'Adnoddau annerbyniol'
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau o fwrdd iechyd Hywel Dda wedi derbyn y feirniadaeth mewn adroddiad sy'n manylu ar y newidiadau i wasanaethau mamolaeth yn Sir Benfro a Sir G芒r.
Roedd y gwaith ymchwil yn edrych ar effaith y newidiadau ar gleifion a staff, ers i'r ddarpariaeth i enedigaethau cymhleth symud o Lwynhelyg, Hwlffordd i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Y Coleg Brenhinol Pediatregol a Gofal Plant sy'n gyfrifol am yr adroddiad.
Wrth i'r bwrdd llawn gyfarfod, fe ddywedodd y Prif Weithredwr, Steve Moore, ei fod yn derbyn rhai o gasgliadau negyddol yr adroddiad, a'i fod wedi ymrwymo i geisio gwella cyfathrebu gyda'r cyhoedd a staff, yn ogystal 芒 bwrw 'mlaen gyda datblygiadau i uned famolaeth Glangwili,
Yn 么l yr adroddiad, mae'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd yn annerbyniol, er bod y gofal sy'n cael ei ddarparu yn dda.