大象传媒

Ateb y Galw: John Pierce Jones

  • Cyhoeddwyd
John Pierce Jones

Yr wythnos yma John Pierce Jones sy'n Ateb y Galw wedi iddo gael ei enwebu gan yr actores Rhian Morgan.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cerdded am y tro cynta mewn cae gwair yn Niwbwrch, Ynys M么n, ac fy nhaid yn curo ei ddwylo ac yn agor ei freichiau i fy nerbyn i.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Marilyn Monroe. Mi roedd 'na ffilmiau yn y pentra' bob nos Fawrth a nos Iau gyda'r M么n Mobile Cinema. Ffilm i blant yn gynta', a wedyn ffilmiau eraill yn hwyrach.

Ro'n i wrth fy modd efo Doris Day hefyd. Roedd hi'n actio mewn petha fel 'Calamity Jane', a dwi'n cofio meddwl mai gwraig fel 'na ro'n i ishio rhyw ddydd!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ro'n i'n blismon yn Nolgellau yn y 1960au, a bryd hynny roedd 'na fysiau double-decker yn cael eu defnyddio i fynd 芒 gweithwyr o'r dre i Drawsfynydd a llefydd eraill. Roedd y bysiau 'ma'n cael eu cadw yn y maes parcio ar y Marian.

Un diwrnod nes i roi cymorth i fws ddod allan o'r Marian i'r ffordd fawr ar waelod y bont yn y dre. Ar 么l i mi stopio'r traffig, a chael dipyn o strach, fe lwyddodd y bys i ddod allan, mynd i dop y bont a throi i'r dde am gyfeiriad y Bala.

Heb i mi ddeall, mi roedd y bws yn cael ei ddwyn gan griw o fois o Fanceinion ac i ffwrdd a nhw... nes i ddim cyfaddef mod i 'di eu helpu nhw ar y pryd!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Mis Awst yn Wembley. Mi 'na'th Iwan fy mab sgorio yn rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Gynghrair Ysgolion Prydain - The Schools Challenge Cup. Yn y papurau dywedodd ambell i newyddiadurwr mai hwn oedd un o'r ceisiau gorau i'w sgorio yn Wembley.

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae t卯m Rygbi'r Gynghrair Ysgol Glantaf yn dipyn gwell 'na th卯m p锚l-droed Bryncoch!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, mae gen i lot fawr, allai sgwennu tua pum tudalen ohonyn nhw. Mi fyddai'r wraig yn dweud chwyrnu.

I ddweud gwir ro'ni'n actio efo Timothy Spall ar ffilm o'r enw 'Lucky Break' rhai blynyddoedd yn 么l. 'Na'th o fy nghlywed i'n chwyrnu rhywbryd a dweud mod i fel warthog yn chwyrnu.

Dwi hefyd yn un drwg am fwyta sothach - McDonalds, KFC... 'dwi wrth fy modd efo nhw.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ynys Llanddwyn ar Ynys M么n. Ges i fy magu yn agos i fanna ac mae 'na rywbeth arbennig am y lle. Fy ewythr oedd y peilot olaf yno. Ma'n le celtaidd, hudolus a dwi'n teimlo'n hun yn newid pan fydda i yno.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yn Port-au-Prince, Haiti, y noson gynta i Iwan fy mab aros gyda ni. Ro'n i wedi ei gyfarfod o o'r blaen, ond dwi'n cofio y noson gynta iddo aros gyda ni fel teulu. Mi roedd 'na ymladd tu allan, s诺n gynnau, ond roedda ni wrth ein boddau i gael Iwan yn ei bywydau yn barhaol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

John a'i fab, Iwan, yn paratoi i hwylio

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Styfnig. Caredig. Sentimental.

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi'n hoff iawn o lyfrau ditectif, ond dwi'n meddwl mai 'O law i law' 'di'n hoff lyfr i. Dwi'n cofio pan ro'n i tua 12 oed ac yn s芒l, daeth mam 芒 llyfr i mi, a do'n i ddim yn medru stopio'i darllen hi unwaith 'nes i ddechrau - y llyfr cynta' i mi ei ddarllen o glawr i glawr.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Mae genai b芒r o sgidiau braf iawn, suede. Dwi 'di torri bodia'n nhraed felly ma'n anodd cael p芒r o sgidiau cyfforddus, ond ma' rhain mor gyfforddus.

Mae 'na dipyn o st芒d arnyn nhw bellach felly dwi'n trio cael gafael ar rhai tebyg ar y we - ond heb lwc hyd yma.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Dwi wrth fy modd efo ffilmiau yn ymwneud 芒'r Maffia, ac mi wel'is i 'Godfather 2' yn ddiweddar. Mae hi'n wych o ffilm ac mae Robert De Niro yn arbennig ynddi.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fydda'n chwarae dy ran di?

Rod Steiger. Roedd o'n actor gwych, ac yn digwydd bod roedd o'n foi eitha mawr hefyd sy'n helpu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Arthur Picton a Wali Tomos cyn brwydr fawr Maes Dulyn?

Dy hoff albwm?

Dwy albwm y Beatles sy'n dod i'r amlwg yma. 'Hard Day's Night' am resymau sentimental - hon oedd y record gyntaf i mi ei phrynu. Ond mi fyswn i'n gorfod dewis 'Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band' oherwydd y miwsig, mai'n hollol wych.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Dwi'n foi pwdin, er mai anaml fydda i'n cael y dyddiau 'ma. Rhywbeth huefnog dwi'n ei fwynhau - eton mess, pavlova neu cr猫me br没l茅e. Ond dim byd rhy iach efo gormod o ffrwythau.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Richard Branson, er mwyn i mi gael gweld am ddiwrnod sut beth ydi hi i gael gymaint o arian.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae gynnon ni bres Tecwyn! Be am brynu'r boi bach Bale 'na o Real Madrid?"

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesa?

Huw Chiswell