Tata: Swyddi dan fygythiad yn Shotton
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni dur Tata wedi cadarnhau y bydd un o'r llinellau galfaneiddio poeth yn eu ffatri yn Shotton, Sir y Fflint - lein rhif 5 - yn cael ei gau dros dro.
Yn 么l un o'r undebau sy'n cynrychioli gweithwyr yno fe allai hyn beryglu 40 o swyddi yn y ffatri.
Mae'r cwmni wedi pwysleisio y bydd y llinell yn cael ei gadw yn y ffatri gyda'r bwriad o'i ailgychwyn pan fydd y farchnad ddur yn fwy ffafriol, ac y bydd yr ail lein debyg yn Shotton yn cynhyrchu mwy.
Doedd y cwmni ddim yn barod i drafod faint o weithwyr fydd yn colli'u gwaith, ond fe ddywedon nhw eu bod mewn trafodaethau gyda'r gweithwyr a'u cynrychiolwyr ac y byddai pob ymdrech i ddod o hyd i waith arall iddyn nhw o fewn y busnes.
Yn 么l Keith Jordan o undeb y Community Union, fe allai'r lein gael ei atal am 18-24 mis, neu tan i'r galw am y cynnyrch gynyddu.
Ychwanegodd bod hyn o ganlyniad i ad-drefnu busnes Tata yn ne Cymru a bod y lein yn Shotton bellach yn colli arian oherwydd hynny.
Gobaith Mr Jordan oedd y byddai'r gweithwyr ar y lein yn cael eu symud i lein rhif 6 yn Shotton sydd yn gwneud elw o hyd, a hynny er mwyn cadw sgiliau yn yr ardal.