大象传媒

Surf Snowdonia'n gorfod cau'n gynnar oherwydd problemau

  • Cyhoeddwyd
Surf Snowdonia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Agorodd y ganolfan ar 1 Awst

Mae cyfarwyddwyr canolfan Surf Snowdonia yn Nolgarrog yn Eryri wedi cyhoeddi bod y ganolfan wedi cau ei drysau am dymor y gaeaf - a hynny wyth wythnos yn gynnar.

Fe agorodd y ganolfan ei drysau ar 1 Awst ond mae wedi gorfod cau dros dro deirgwaith o achos problemau technegol.

Dywedodd y cyfarwyddwyr fod problem fecanyddol ddifrifol gyda'r cyfarpar creu tonnau yn golygu y bydd yn cymryd o leia' dri mis i'w drwsio.

Mae cytundebau 60 o weithwyr tymhorol wedi dod i ben yn gynnar ac mae wyth aelod staff llawn amser wedi colli eu gwaith.

'Siomedig'

Dywedodd Martin Ainscough, Cadeirydd Gr诺p Ainscough sy'n berchen ar y ganolfan: "Mae hwn yn ddiwrnod siomedig i ni i gyd ac mae'n anodd i'n staff rhagorol a'r holl bobl sy' wedi trefnu dod i'r ganolfan.

"Rydym yn rhoi gwybod i'n holl gwsmeriaid ac yn fodlon rhoi ad-daliadau.

"Pan fydd y ganolfan ar gau mi fyddwn yn buddsoddi mwy er mwyn gwella'r lag诺n syrffio ... erbyn gwanwyn 2016 rydym yn gobeithio agor am dymor llawn ac ailgyflogi llawer o'n staff rhagorol."

Dywedodd mai buddsoddiad tymor hir oedd Surf Snowdonia ac y byddai'r buddsoddi yn y gaeaf yn dangos eu hymrwymiad llwyr i lwyddiant y fenter.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rheolwyr yn gobeithio agor erbyn y gwanwyn

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n rhannu siomedigaeth y t卯m yn Surf Snowdonia, eu cwsmeriaid a'u staff.

"Mae'r atyniad wedi bod yn boblogaidd ers ei lansiad, a ry'n ni'n croesawu'r buddsoddiad pellach dros fisoedd y gaeaf."