大象传媒

Cyhoeddi cynlluniau ar gyfer pont newydd dros y Ddyfi

  • Cyhoeddwyd
Pont Dyfi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyluniad arlunydd o'r bont newydd fyddai'n croesi Afon Dyfi

Bydd cynigion am bont newydd gwerth 拢24m dros Afon Ddyfi yn cael eu cyhoeddi mewn arddangosfa gyhoeddus ym Machynlleth ddydd Mercher.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y bont newydd yn "gwella capasiti ar yr A487 gan wella diogelwch ac amser teithio ar y ffordd, sy'n gysylltiad pwysig rhwng y gogledd a'r de".

Mae'r cynllun yn cynnwys pont newydd fyddai'n croesi'r Ddyfi yn uwch i fyny'r afon na'r bont bresennol ger Machynlleth.

Mae'r bont bresennol wedi ei beirniadu am fod yn gul ac am gau yn rheolaidd oherwydd llifogydd neu ddifrod gan gerbydau

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai'r bont newydd yn croesi'r Ddyfi yn uwch i fyny'r afon na'r bont bresennol ger Machynlleth

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart: "Bydd y bont newydd hon yn gwella llawer ar ddiogelwch, amser teithio a pha mor gadarn yw'r rhwydwaith, tra'n sicrhau bod y bont wreiddiol restredig Gradd II yn aros yn ei lle.

"Rwy'n gobeithio y bydd cymaint o bobl 芒 phosib yn mynd i'r arddangosfa ac yn adrodd yn 么l ar y cynlluniau arfaethedig."

Bydd yr arddangosfa yn agored i'r cyhoedd yn Y Plas, Machynlleth, rhwng 10:00 ac 20:00 ddydd Mercher.