Ateb y Galw: Robin Llywelyn
- Cyhoeddwyd
Robin Llywelyn, y llenor a Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon ar 么l iddo gael ei enwebu gan Huw Chiswell.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae arna'i ofn nad wyf yn cofio fy atgof cyntaf un oherwydd mae pob dim a ddigwyddodd imi cyn imi gyrraedd dwy oed wedi mynd dros gof ac nid wyf yn cofio llawer o ddim byd a ddigwyddodd wedyn chwaith nes imi basio'r deugain.
Pwy oeddet ti'n ei ffans茂o pan yn ieuengach?
Pan oeddwn i'n fach fyddwn i'n fy ffans茂o fy hun fel gofodwr ond daeth y ffantasi i ben ar 么l creu roced o hen fin sbwriel a'i lansio oddi ar ben y to. Pan ddeuthum adref o'r ysbyty roedd y roced wedi diflannu a'r lleuad yr un mor bell ag erioed.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae cymaint o ddigwyddiadau'n dwad i'r meddwl mae'n anodd dewis. Un tro roeddwn i'n trafod llun ar y wal mewn arddangosfa o waith hen arlunydd o gyfandir Ewrop nad oeddwn i'n hoff o'i gwaith.
Fel rheol byddwn yn cymryd arnaf fy mod i'n hoffi'r canfasau afiach gan fy mod i'n ei hadnabod. Ond gwelais ei bod mewn rhan arall o'r oriel a dyma finnau wrthi yn rhestru'r holl bethau erchyll a gwarthus am ei gwaith a dweud ei bod hi'n hen ast ddauwynebog a chas.
Ni ddywedodd yr eneth a safai yn fy ymyl ddim byd heblaw mai ei mam hi oedd yr artist a cherdded oddi wrthyf. Roedd fy nghywilydd yn gyflawn pan ddaeth yr artist ei hun ataf i'm cwestiynnu yn ei hacen Ellmynig.
Cywilydd mawr. Mae'r artist wedi ei chladdu ers talwm. Ac mae'r lluniau'n dal yn warthus.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Nos Sadwrn pan giciodd y Walabiaid y Saeson allan o Gwpan Rygbi'r Byd. Dagrau o lawenydd a rhyddhad.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Mae Sian fy ngwraig wedi rhestru rhai ohonyn nhw ond mae hi angen cyfrol arall r诺an ar gyfer y rhai diweddaraf.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Penrhyndeudraeth. Am fy mod i'n byw yma.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Does gen i ddim syniad. A d'eud y gwir dwi'm yn meddwl mod i wedi cael noson orau eto a dwi'm yn si诺r a fyddwn i'n ei hadnabod pes cawn.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hen grinc blin.
Beth yw dy hoff lyfr?
'Geiriadur yr Academi', Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Nid oes yr un dilledyn na allwn fyw hebddo, pe bai raid. Pe na chawn drwsys gallwn wisgo cilt, pe na chawn grys gallwn wisgo siwmper, pe na chawn sgidiau (ydi sgidiau'n ddillad?) gallwn gerdded yn droednoeth.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Yn y pictwrs felly? Rhyw ffilm am Blaned yr Epaod dwi'n meddwl.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fydda'n chwarae dy ran di?
Wel, mi fyddai'r dyn sy'n chwarae rhan Roy Cropper yn Corrie yn iawn, rydym yn rhannu'r un steil ac yn defnyddio'r un bag negesau (David Neilson ydi'i enw o, ar 么l imi edrych ar y we) neu fel arall hwryach y byddai Victor Meldrew yn addas gan ein bod ill dau yr un mor amyneddgar ac addfwyn (dwi'n gwybod enw go iawn hwn, sef Richard Wilson).
Dy hoff albwm?
Fy hoff g芒n yw Ethiopia Newydd sydd ar albwm Hen Wlad Fy Nhadau gan Geraint Jarman.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Prif gwrs, wrth gwrs.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Homer Simpson.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesa?
Twm Morys