大象传媒

Lansio Cymwysterau Cymru

  • Cyhoeddwyd
cymwysterau cymru

Mae'r corff newydd sy'n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau yng Nghymru yn cael ei lansio'n ffurfiol ddydd Iau.

Mae Cymwysterau Cymru wedi ei sefydlu yn dilyn adolygiad gafodd ei gynnal yn 2012 o gymwysterau plant a phobl ifanc rhwng 14 ag 19 oed.

Un o brif argymhellion yr adolygiad hwnnw oedd sefydlu arolygydd cymwysterau annibynnol i ymateb i anghenion penodol Cymru.

Yn 么l llefarydd ar ran Cymwysterau Cymru, prif nod y sefydliad newydd fydd sicrhau fod cymwysterau a system gymwysterau Cymru yn effeithiol wrth gwrdd ag anghenion disgyblion, a bod gan y cyhoedd hyder yn y system.