大象传媒

Pryder am ddyfodol melin wynt ym M么n

  • Cyhoeddwyd
llynon

Ddiwedd yr wythnos (16 Hydref), mi fydd y cyfle yn dod i ben i unrhyw fudiad neu grwp fynegi diddordeb i fod yn gyfrifol am dri o safleoedd treftadaeth M么n.

Yn 么l Cyngor M么n, dydi'r arian ddim ganddyn nhw i fod yn gyfrifol am Oriel M么n Llangefni, Carchar Biwmares a Melin Llynnon Llanddeusant, yn y dyfodol.

Ond mae Cyngor Cymuned Trealaw, sydd yn gyfrifol am bentref Llanddeusant, wedi dweud wrth raglen y Post Cyntaf ar 大象传媒 Radio Cymru nad ydi'r cyngor wedi cysylltu 芒 nhw o gwbl, ac mae arweinydd Cyngor M么n wedi dweud efallai y bydd yn rhaid ystyried "y cam eithafol" o werthu'r safleoedd yn breifat.

Ifan Rowlands ydi is-gadeirydd Cyngor Cymuned Trealaw.

Fe ddywedodd fod Melin Llynnon "yn symbol o'n treftadaeth ni, ein twristiaeth ni a'n diwylliant ni. Mi fyddai wedi bod yn braf fel Cyngor Cymuned, cael rhyw fath o gysylltiad gan Cyngor M么n, 'da ni'n gwybod am eu bwriad nhw o ddarllen y papur newydd."

"'Da ni'n siomedig mwy na dim byd, achos wrth gwrs mi fydda ni'n hoffi gweld yr eicon ydi'r felin yma yn cael ei chadw mewn rhyw fath o sefydliad sy'n mynd i sicrhau ei bod hi'n cael ei chadw'n agored, a'n rhan o dwristiaeth M么n".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Is-gadeirydd Cyngor Cymuned Trealaw, Ifan Rowlands, ger Melin Llynnon

'Agored i bawb'

Ond yn 么l Arweinydd Cyngor M么n, Ieuan Williams: "Dyda ni ddim wedi mynd allan i siarad efo un corff penodol o gwbl - mae hwn yn agored i bawb ddangos diddordeb, tyda ni ddim wedi gwahaniaethu - ac mae yna groeso iddyn nhw gysylltu efo fi ac mi wnai siarad 芒 nhw yngl欧n 芒'r mater".

Mae Oriel Mon yn cynnwys casgliadau o waith Syr Kyffin Williams a Charles Tunnicliffe ac yn 么l y Cyngor, mi fyddai'r darluniau rheini yn cael eu gwarchod.

Felly ydi gwerthu rhan o'r casgliad er mwyn diogelu'r safleodd yn opsiwn?

"Mae'n rhaid i ni gofio am yr amodau y mae'r rhai hynny wedi eu gadael i'r Cyngor," yn 么l Ieuan Williams, "wedyn mae yna amodau ynghlwm efo'r casgliad."

Fel pob cyngor arall, mae'n rhaid i Gyngor M么n wneud arbedion gwerth miliynnau o bunnau dros y blynyddoedd nesa'.

Yn 么l yr Arweinydd, byddai gwerthu'r safleoedd "yn well na'u cau nhw, wedyn efallai ar ddiwedd y dydd y byddai'n rhaid i ni ystyried cam mor eithafol 芒 hynny."