大象传媒

'Llofrudd Lynette White heb weithredu ar ei ben ei hun'

  • Cyhoeddwyd
Lynette White
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Lynette White ei llofruddio yn 1988

Mae'r bargyfreithiwr sy'n cynrychioli wyth cyn-blismon, oedd yn rhan o achos aflwyddiannus o dwyll yn ymwneud 芒'r ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White, wedi dweud wrth yr Uchel Lys ei bod yn bosib na wnaeth ei llofrudd weithredu ar ei ben ei hun.

Mae'r wyth wedi dwyn achos sifil yn erbyn Heddlu De Cymru.

Er bod tystiolaeth DNA yn cysylltu Jeffrey Gafoor 芒 llofruddiaeth Ms White yn 1988, meddai Anthony Metzer QC, roedd amheuaeth a oedd wedi gweithredu ar ei ben ei hun ac roedd anghysonderau yn awgrymu bod pobl eraill yn bresennol.

'Arswydo'

Yn 2011 fe aeth wyth cyn-blismon, oedd yn rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol i'r llofruddio, o flaen llys oherwydd eu hymddygiad yn 1988 arweiniodd at arestio, euogfarnu a dedfrydu ar gam Tri Caerdydd fel yr oedden nhw'n cael eu hadnabod, Tony Parris, Stephen Miller a Yusef Abdullahi.

Cafodd yr euogfarnau eu dileu gan y Llys Ap锚l yn 1992 wedi i'r erlyniad dderbyn eu bod yn "anniogel ac anfoddhaol".

Ar ddiwedd y gwrandawiad ap锚l dywedodd yr Arglwydd Ustus Taylor ei fod "wedi arswydo" gan ymddygiad yr heddlu yn yr achos.

Roedd achos o lygredd yn 2011 ond dymchwel wnaeth yr achos hwnnw ac mae'r cyn-blismyn - Graham Mouncher, Thomas Page, Richard Powell, John Seaford, Michael Daniels, Peter Greenwood, Paul Jennings, a Paul Stephen - wedi dwyn achos sifil yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd.

Dinistrio

Dywedodd eu bargyfreithiwr wrth y llys ddydd Llun fod arestio'r plismyn ar gyhuddiadau o lygredd wedi dinistrio eu bywydau a'u gyrfaoedd, a'u bod wedi diodde' niwed i'w cymeriad a'u henw da.

Nid achos gwneud oedd hwn, meddai, ac roedd angen gofyn cwestiwn rhethregol - pam y bydden nhw wedi bod yn rhan o gynllwyn mor eang?

Ychwanegodd bod gan y rhai oedd yn ymchwilio i ymddygiad y plismyn yn yr ymchwiliad gwreiddiol ag agwedd hollol amhriodol wrth baratoi'r achos yn erbyn ei gleientiaid.

Dywedodd eu bod wedi trin y rhai oedd yn cael eu hamau'n wreiddiol o'r llofruddiaeth fel eu bod yn gwbl ddieuog ac o ganlyniad roedden nhw'n credu bod yr wyth plismon dan sylw yn euog o ddrwgweithredu.

Dywedodd hefyd bod ei gleientiaid wedi cael eu trin fel celwyddgwn.

Ddim ar fai

Yn 么l Mr Metzer, roedd yna awydd camsyniol gan y rhai oedd yn arwain yr ymchwiliad i lygredd i sicrhau nad oedd y diffynyddion gwreiddiol ar fai er efallai roedd ganddyn nhw ryw gysylltiad gyda'r llofruddiaeth.

Er gwaethaf tystiolaeth DNA a chyfaddefiad Mr Gafoor, meddai, roedd yna gwestiwn a oedd Mr Gafoor wedi llofruddio Lynette White ar ei ben ei hun ac roedd ei gleientiaid yn pryderu am y diffyg eglurhad am nifer o anghysonderau ble cafodd y llofruddiaeth ei nchyflawni.

Yn yr achos ddydd Llun, fe atgoffodd Mr Ustus Wyn Williams KT y llys bod Jeffrey Gafoor wedi pledio'n euog i lofruddio Ms White.

Mae'r wyth cyn-blismon wedi dwyn achos yn erbyn Heddlu De Cymru am gamwaith mewn swydd gyhoeddus a charcharu ar gam.

Mae'r achos yn parhau.