大象传媒

Gwrthod cais i ddymchwel pier Bae Colwyn

  • Cyhoeddwyd
Pier

Mae cais i ddymchwel pier Bae Colwyn wedi'i wrthod gan Lywodraeth Cymru.

Roedd Cyngor Conwy wedi gwneud y cais i ddymchwel y pier.

Dywedodd y cyngor ei fod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad ond ei fod yn bwriadu gwneud cais newydd fydd yn bodloni holl feini prawf cais o'r fath.

Fe aeth brwydr gyfreithiol rhwng cyn-berchennog y pier, Steve Hunt, a'r cyngor dros berchnogaeth y pier i'r Uchel Lys yn gynharach yn y mis.

Deiseb

Daeth penderfyniad y llywodraeth ddiwrnod ar 么l i Aelod y Cynulliad Ceidwadol Darren Millar gyflenwi deiseb i weinidogion y llywodraeth oedd wedi ei llofnodi gan dros 1,000 o bobl.

Dywedodd Mr Millar bod y penderfyniad wedi dod ag ymgyrchwyr "gam yn nes" at ail-ddatblygu'r safle ar gyfer y gymuned.

Yn 么l y cyngor fe wnaeth eu cais fodloni dau allan o dri o'r meini prawf a bydd aelodau o fwrdd cynllun pier y cyngor yn cyfarfod yn y "dyddiau nesaf" i ystyried eu hymateb.

Mae disgwyl i'r Uchel Lys ddyfarnu ar berchnogaeth y pier erbyn diwedd Tachwedd.