大象传媒

Ateb y Galw: Dyl Mei

  • Cyhoeddwyd
Dyl Mei

Yr wythnos yma y cynhyrchydd a chyn-aelod o'r Genod Droog, Dyl Mei, sy'n Ateb y Galw wedi iddo gael ei enwebu gan Twm Morys.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'm yn hollol si诺r os mai hwn ydi fy atgof cynta', neu atgof o be ydi fy atgof cyntaf. Pryd o'n i'n iau a dal i fyw ym Menrhyndeudraeth, roedd fy mrawd mawr sef Osian Efnisien a fi yn defnyddio'r gwely gwaelod yn ein bunk beds i lwyfannu dram芒u oeddan ni wedi eu g'neud fyny.

Dwi'n eitha' si诺r mai fi oedd un o'r dynion t芒n oedd yn ceisio diffodd y ffwrnais ddychmygol oedd yn digwydd o flaen y gynulleidfa, mam a dad.

Mae gen i ryw atgof o stick insects wedi marw ar garped y stafell wely, ond tydi fy ngho' i ddim ddigon da i benderfynu pa un ydi'r cyntaf o'r ddau atgof.

Pwy oeddet ti'n ei ffans茂o pan yn iau?

Nala, y gath o'r Lion King.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mewn bwyty takeaway ym Mangor, roedd un o fy ffrindiau 'di pician allan i n么l rhywbeth heb archebu, felly nes i benderfynu rhedeg full pelt i ddal fyny hefo'r ffrind er mwyn archebu drosto.

Yn anffodus, mi 'na'th be o'n i yn feddwl oedd yn ddrws agored droi allan i fod yn ffenest oedd wedi ei pholishio yn dda iawn... do, mi 'nes i redeg syth mewn iddo fo. Do, mi wnes i frifo a disgyn i'r llawr, a do, mi 'naeth pawb chwerthin, yn uchel iawn.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wrth wrando ar podcast o'r enw Invisibilia am fachgen talentog oedd wedi dioddef o salwch difrifol a dirywio dros 12 mlynedd i'r pwynt ei fod o mewn coma am 12 mlynedd.

Roedd y rhaglen yn rhoi'r syniad ei fod wedi marw, ond ar 么l hanner awr, ymddangosodd llais electroneg yn deud "helo" ac yn cyflwyno ei hun.

Roedd hi'n troi allan ei fod yn iawn yn feddyliol trwy'r holl goma, ac wedi yn y diwedd, llwyddo dysgu ei hun i gyfathrebu drwy'r defnydd o gyfrifiaduron.

Dwi ddim fel arfer yn berson neith grio, ond roedd y ffordd 'naeth y rhaglen ma' adeiladu fyny i'r "helo" yn anhygoel.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gwario pob ceiniog o fy nghyflog ar recordiau nad ydw i yn gwrando arnyn nhw hanner digon.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ydi t欧 Dyl Mei yn debyg i siop recordiau?

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Porthmadog. Oherwydd heb Port, fyswn i ddim yn fi. Mae'r bobol yn anhygoel, yr ardal hefo llefydd arbennig o lan y m么r Borth y Gest i gae p锚l droed Y Traeth.

Yno hefyd mae Cob Records, heb os un o'r llefydd fwyaf dylanwadol ar fy mywyd. Bosib 'swn i wedi fy magu yn rhywle arall, fysa' fy nhast cerddorol yn gwbl wahanol.

Dwi'n meddwl byswn i yn berson gwahanol ac er fy mod wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon, ac wrth fy modd yna. Dwi'n gobeithio un dydd dychwelyd adra.

"Porthmadog is wonderful, we've got a steam train and Cob records, Porthmadog till I die"

Y noson orau i ti ei chael erioed?

'Blaw am yr un nes i gwrdd 芒 fy mhartner, Lowri? Bod yn aelod o'r gr诺p Genod Droog ac yn cael y pleser o fod yn brif fand Sesiwn Fawr yn Nolgellau 2007.

Roedd chwarae i filoedd o bobol yn bleser pur a hefyd y pleser o fynd am barti drwy'r nos. Ar y llwyfan y noson honno roedd na soffa, dwi'n cofio codi oddiarno efo Kim de Bills o'r gr诺p am 8 y bore, hefo'r llwyfan yn cael ei dynnu i lawr o'n hamgylch.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Genod Droog, cyn mynd ar y llwyfan i berfformio yn y Sesiwn Fawr

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Hypochondriac tew cerddorol.

Beth yw dy hoff lyfr?

'Ready Player One' gan Earnest Cline. Mae'r stori'n go syml, mae 'na fachgen yn y dyfodol yn byw mewn byd cyfrifiadurol sydd wedi ei seilio ar ddiwylliant yr 80au yn ceisio cael hyd i ffortiwn fwyaf y byd sydd wedi ei guddio o fewn g锚m. Mae ganddo bopeth dwi yn hoffi: antur, gemau cyfrifiadur, cart诺ns yr 80au, ffilmiau a rhaglenni teledu gwirion fel 'Transformers'.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy nghot gwyr, 'nath gostio gormod i beidio ei gwisgo hi bob dydd, trwy'r dydd, am byth.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Mad Max : Fury Road'. Heb os, un o'r ffilmiau gora' yn hanes.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Stephen Fry neu Paul Merton o bosib. Ond 'swn i yn ddigon hapus hefo Huw Ll欧r, Vince o 'Rownd a Rownd', yn cymryd y rhan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai'n rhaid i Huw Ll欧r gael cot cwyr ddrud i bortreadu Dyl Mei

Dy hoff albwm?

Cwestiwn anodd, mae o'n dueddol o newid bob wythnos, ar hyn o bryd dwi'n mynd n么l i wrando ar 'Mwng' gan y Super Furry Animals yn gyson. Heb os yr LP gora' Gymraeg erioed.

O ran y rhai Saesneg, fysa 'Revolver' neu 'Abbey Road' gan y Beatles yn uchel ar y rhestr, ond eto, fysa 'Village Green Appreciation Society' gan The Kinks hefyd! Beryg 'swn i yn gorfod mynd ag un record yn unig i ynys, swn i'n mynd 芒 'Genod Droog', gan Genod Droog.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Prif gwrs wrth gwrs. Dwi ddim 'di gweithio yn galed i fod yn dew yn bwyta cyrsiau cyntaf!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Heledd, y ferch sy'n ista wrth fy ymyl yn y swyddfa, oherwydd 'swn i'n cael y profiad anhygoel o ista wrth fy ymyl i trwy'r dydd.

Ond dwi'n si诺r 'swn i'n mwynhau bod yn Twm Morys gymaint.

A 'sa fo yn mwynhau bod yn fi!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydi Tudur yn foi lwcus yn ca'l eistedd mewn stiwdio efo Dyl Mei ddwywaith yr wythnos?

Pwy sy'n Ateb y Galw wythnos nesaf?

Alun Tan Lan