Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwpan Rygbi'r Byd: Nigel Owens i ddyfarnu'r ffeinal
Y Cymro Nigel Owens sydd wedi ei ddewis i ddyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd rhwng Seland Newydd ac Awstralia.
Dyma fydd y bumed g锚m yn y bencampwriaeth iddo ddyfarnu, ar 么l iddo ddyfarnu gemau Tonga v Georgia, Yr Alban v De Affrica a Ffrainc v Iwerddon - yn ogystal 芒'r g锚m go gyn derfynol rhwng Seland Newydd a Ffrainc.
Bydd y ffeinal yn dechrau am 16:00 ar ddydd Sadwrn 31 Hydref, yn Twickenham.
Jerome Garces a Wayne Barnes fydd yn cynorthwyo Owens yn ystod y g锚m.
Owens, 44, yw'r unig ddyfarnwr o Gymru yng Nghwpan y Byd eleni, a bu'n rhan o banel 2011 a 2007, yn ogystal.
Ef yw'r ail Gymro i ddyfarnu ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd, ar 么l Derek Bevan, oedd yn dyfarnu wrth i Awstralia guro Lloegr yn 1991.
Dywedodd Owens ei fod yn "fraint ac yn anrhydedd" cael ei ddewis.
"Dyma fy nhrydedd Cwpan Rygbi'r Byd, a dwi'n meddwl y gorau. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth.
"Mae safon y rygbi wedi bod yn anhygoel o flaen torfeydd llawn, ac felly mae cael y cyfle i ddyfarnu'r ffeinal rhwng y timau gorau yn y gystadleuaeth yn fraint."
O Fynyddcerrig i ffeinal Cwpan y Byd
- Magwyd Nigel Owens ym Mynyddcerrig, Sir G芒r. Cyn cymhwyso fel dyfarnwr, bu'n gweithio fel technegydd yn Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa.
- Fe gymhwysodd fel dyfarnwr yn 2005.
- Wedi iddo ddatgelu mewn cyfweliad yn 2007 ei fod yn hoyw, fe gafodd ei enwi'n 'Bersonoliaeth Chwaraeon Hoyw y Flwyddyn' gan elusen Stonewall wedi Cwpan Rygbi'r Byd y flwyddyn honno.
- Cafodd ei hunangofiant ei gyhoeddi yn 2008, a'i gyfieithu i'r Saesneg yn 2009.
- Yn 2011, cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd.
- Mae'n ymwneud 芒 nifer o ymgyrchoedd i amddiffyn pobl hoyw a thrawsrywiol, ac ef yw noddwr elusen Bullies Out yng Nghymru.