Arddangos dyluniadau Parc Gwyddoniaeth Menai
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog wedi croesawu "pennod newydd" i Ynys M么n a'i heconomi wedi i ddyluniadau ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai gael eu dadorchuddio.
Daw'r cyhoeddiad ddyddiau ar 么l i'r Undeb Ewropeaidd addo buddsoddi 拢10m yn y prosiect.
Gobaith rheolwyr y parc yw y bydd 350 o swyddi yn Gaerwen erbyn 2020.
Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, fod y dadorchuddio "yn nodi carreg filltir arall mewn pennod newydd sy'n argoeli i fod yn gyffrous a deinamig i'r ynys a'i heconomi".
Mae'r dyluniadau yn dangos adeilad tri llawr 5,000 medr sgw芒r fydd yn ganolbwynt i'r parc.
Ychwanegodd Mrs Hart bod "ffocws y parc ar ynni a thechnoleg l芒n a'i gynlluniau i gysylltu ymchwil academaidd gydag arbenigedd masnachol wedi'i dylunio i greu swyddi newydd, denu buddsoddiad newydd a chefnogi twf i fusnesau".
Bydd yn bosib i'r cyhoedd weld y dyluniadau mewn ymgynghoriad cyhoeddus yn festri Capel Disgwylfa, Gaerwen, dydd Iau 29 Hydref rhwng 10:30-19:30.