200 mewn protest am gynllun i gau pont yn y Bermo
- Cyhoeddwyd
Daeth dros 200 o gerddwyr a seiclwyr at ei gilydd ddydd Sadwrn i alw ar Gyngor Gwynedd i beidio a chau l么n i gerddwyr a beicwyr ar bont ger Y Bermo.
Cafodd y "diwrnod o weithredu" ei drefnu gan yr ymgyrchwyr sy'n dweud bod y l么n o bwysigrwydd mawr, a'i bod wedi bod yno ers 150 o flynyddoedd.
Mae Cyngor Gwynedd yn talu 拢30,800 y flwyddyn i Network Rail, perchnogion y bont, i'w chynnal a chadw er mwyn caniat谩u pobl i'w defnyddio hi.
Ond mae'r cyngor yn ymgynghori ar y posiblrwydd o roi'r gorau i'w ariannu, fel un o nifer syniadau sy dan ystyriaeth er mwyn arbed arian.
Mae dros 40,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar y cyngor i gadw'r bont ar agor, gyda llawer o drigolion a busnesau'r dref yn dadlau y byddai economi'r ardal yn diodde'n ddifrifol petai'r bont yn cau.