Cyhoeddi enw Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
- Cyhoeddwyd
Mae enwau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a chadeirydd ac aelodau newydd bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cyhoeddi.
Mae Sophie Howe wedi'i phenodi'n Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol tra bod Diane McCrea wedi'i phenodi'n Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Aelodau newydd bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yw Elizabeth Haywood, Karen Balmer, Howard Davies, Zoe Henderson a Chris Blake.
'Rolau hanfodol'
Wrth groesawu'r penodiadau dywedodd Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'r rhain yn rolau hanfodol a fydd yn ein helpu i gyflwyno ein Deddf arloesol ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol.
"Mae'r Ddeddf yn ymwneud 芒 llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylchedd a diwylliannol Cymru. Bydd cael pobl gadarn yn y rolau pwysig hyn yn ein helpu i gyflawni'r Cymru rydym ni am ei gweld."
Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: "Mae'n bleser ac yn fraint cael fy mhenodi'n Gomisiynydd cyntaf Cenedlaethau'r Dyfodol dros Gymru.
"Cymru yw un o wledydd cyntaf y byd i roi datblygiad cynaliadwy'n ganolog yn ei holl waith.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio 芒 chyrff cyhoeddus ledled Cymru i'w hannog i gymryd mwy o gyfrifoldeb am effaith hirdymor yr hyn y maen nhw'n ei wneud a gwarchod anghenion cenedlaethau'r dyfodol."
'Asedau mwyaf'
Dywedodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: "Ar ran staff Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Cadeirydd newydd ac Aelodau newydd y Bwrdd wrth i ni barhau i gynnal gwaith da'r ddwy flynedd a hanner ddiwethaf.
"Amgylchedd Cymru yw un o'n hasedau mwyaf - mae'n gynefin bywyd gwyllt, yn rhywle y gall pobl ei fwynhau ac mae'n rhan bwysig o economi'r wlad.
"Mae'r rhain i gyd yn cysylltu 芒'i gilydd ac mae r么l unigryw Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ei warchod a'i wella yn arloesol mewn sawl ffordd.
"Bydd gan Gadeirydd newydd ac Aelodau newydd y Bwrdd r么l bwysig i'w chwarae i'n harwain yn strategol i ddal ati yn y blynyddoedd i ddod."
'Cyfleoedd'
Dywedodd Diane McCrea, cadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rwy'n edrych ymlaen at fod yn gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
"Mae llawer o gyfleoedd yn y r么l i dangos sut y gallwn ni fel sefydliad weithio gyda phartneriaid i helpu i reoli adnoddau naturiol mewn ffordd fwy rhagweithiol a chynaliadwy.
"Rhan o fy r么l hefyd fydd sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
"Edrychaf hefyd ymlaen at weithio'n agos iawn 芒 Dr Madeleine Havard sydd wedi'i phenodi'n Dirprwy Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
"Bydd ganddi fwy o r么l wrth weithio gyda staff a hi fydd hyrwyddwr y bwrdd dros gydraddoldeb ac amrywiaeth."