Ffordd liniaru'r M4 i gostio 'llawer llai' na 拢1bn
- Cyhoeddwyd
Byddai ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd yn costio "llawer llai" na 拢1bn, yn 么l Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.
Ond nid oedd, meddai, yn gallu cyfeirio at ffigwr penodol am y byddai'r gwaith yn cael ei osod ar gynnig.
Fe gafodd cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 eu canslo yn 2009 ar 么l i weinidogion ddweud y byddai'n costio 拢1bn ac nad oedd yn fforddiadwy.
Ond dywedodd Mr Jones wrth 大象传媒 Cymru ddydd Iau: "Yn sicr, rydyn ni eisiau ei chodi.
"Rhaid cael asesiad amgylcheddol ac mae'n debyg y bydd ymgynghoriad cyhoeddus - mae'n rhaid i ni fynd trwy'r broses yna nawr.
"Wedi i hynny ddod i ben fe wnewn ni ddechrau ar y gwaith."